Rhaglen Graddedigion Cymru

Dan arweiniad y Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru, mae Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru yn fenter gydweithredol sy'n cynnwys sefydliadau gwasanaethau ariannol blaenllaw sy’n seiliedig yng Nghaerdydd, gan gynnwys: Admiral, Atradius, Composite Legal Expenses, Cyllid Cymru, GM Financial, Grant Thornton, Julian Hodge Bank and Optimum Credit. 

Welsh Financial Sector

Y nod yw:

  • Meithrin a chadw'r graddedigion mwyaf dawnus.
  • Datblygu ein sector ariannol bywiog yng Nghymru.
  • Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ddewis gyrfa mewn cyllid.

Y manteision i fusnesau

Bydd y rhaglen yn:

  • Creu cronfa dalent i'ch cwmni o bobl broffesiynol ar gyfer dyfodol y diwydiant.
  • Cynhyrchu llif o syniadau ar lefel raddedig a meddylfryd academaidd gwerthfawr i'ch sefydliad.
  • Cefnogi cydweithrediad rhyngoch chi a phobl ariannol flaengar eraill o'r un meddylfryd er mwyn i chi allu rhannu arferion gorau mewn prosesau hyfforddi.
  • Gwella eich strategaeth recriwtio ymhellach a denu'r dalent yr ydych ei angen i sicrhau y bydd eich busnes yn llwyddo yn y tymor hir.

Mae'r rhaglen yn unigryw i Gymru. Mae'r graddedigion yn cychwyn rhaglen lawn amser ddwy flynedd sy'n cynnwys gwaith, hyfforddiant ac astudiaeth academaidd, ac yn rhoi digonedd o gyfle i gwmnïau 'dreialu' hyfforddeion a mesur pa mor effeithiol fyddent o gael eu cyflogi yn y dyfodol. Ar ddiwedd y cytundeb cyfnod penodedig ni fyddwch o dan unrhyw oblygiad i gyflogi unrhyw rai o'r graddedigion yn barhaol. Ar y llaw arall, os byddent wedi profi eu gwerth, mae gennych weithiwr graddedig, sydd wedi cael hyfforddiant cyflawn a fydd yn gallu cychwyn yn y gwaith yn hyderus ar unwaith.

Pa gymorth sydd ar gael i chi?

Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi darparu arian i gyfrannu tuag at gost yr amser hyfforddi mewnol. Ond, mae'r rhaglen yma'n ymwneud a llawer mwy na gostwng gwariant hyfforddiant a recriwtio eich cwmni. Nid arbed arian yw'r diben. Ei nod yw adeiladu sector ariannol cryfach a mwy cadarn yng Nghymru, a sicrhau llwyddiant eich cwmni yn y dyfodol. Mae'r manteision yn gyffyrddadwy ac yn bellgyrhaeddol.

Eich ymrwymiad

Mae'r rhaglen yn dibynnu ar ymrwymiad chwaraewyr blaenllaw o'r Sector Ariannol yng Nghymru. Maent yn gwybod po fwyaf y byddent yn ei roi i mewn i'r rhaglen hon, y mwyaf y byddent yn ei gael allan ohoni.

Cynigir pedwar lleoliad gwaith o chwe mis i'r graddedigion mewn pedwar cwmni gwahanol sy'n cymryd rhan yn y cynllun. Mae hyn yn rhoi'r cyfle iddynt samplu amrywiaeth o lwybrau gyrfaol yn y diwydiant, megis:

  • Datblygu Cynnyrch
  • Rheoli Cyfrifon Masnachol
  • TG/Seiberddiogelwch
  • Cyllid/Cyfrifeg
  • Dadansoddi Busnes/Risg
  • Ymchwil/Strategaeth/Marchnata

Fel cwmni sy'n cymryd rhan, byddwch yn cynllunio a rheoli rhaglenni datblygiad a hyfforddiant strwythuredig. Bydd pob un o'r graddedigion yn astudio ar gyfer Cymhwyster Meistr ac yn gwneud elfen sylweddol o ddysgu seiliedig-ar-waith yn eich gweithle. Bydd y brifysgol yn gweithio'n agos gyda chi i sicrhau bod y cynlluniau hyfforddi i'r graddedigion yn gadarn ac ar lefel Meistr.

Yw eich busnes yn gymwys?

Mae'r Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru i gyflogwyr sydd wedi'u lleoli yn ne-ddwyrain Cymru.

 

MAE'N AMSER i feithrin talent graddedigion

Galwch Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Ariennir Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Rhestr Wirio Rhaglen Cronfeydd yr UE yng Nghymru
Ardal Cyflenwi De-ddwyrain Cymru
European Social Fund
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru