Ysgoloriaethau Sgiliau at gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS)

Ymunwch a phrifysgolion blaenllaw a sicrhau arian ar gyfer gwaith ymchwil i helpu i ddatblygu marchnadoedd a chynhyrchion newydd.

Sefydlwyd yr Ysgoloriaethau Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS) i roi cyfle i fusnesau weithio mewn partneriaeth a phrifysgolion ar brosiectau ymchwil cydweithredol. Nod y rhaglen KESS yw helpu i gynyddu'r gallu i ymchwilio'r busnesau bach a chanolig hynny sy'n gweithredu yn y sectorau economaidd a blaenoriaeth a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. 

Mae'r rhaglen KESS yn rhoi cyfle i fusnesau yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd sy'n gweithredu yn y sectorau a blaenoriaeth a bennwyd gan Lywodraeth Cymru (yr economi digidol, yr economi carbon Isel, Gwyddorau Bywyd ac Iechyd, Uwch Beirianneg a Gweithgynhyrchu) weithio mewn partneriaeth gyda phrifysgolion ar brosiectau ymchwil wedi'u cyllido'n drwm.

Gall busnesau gael gafael ar waith ymchwil hyd lefel Meistr Ymchwil a PhD sy'n fforddiadwy ac yn ymarferol, a datblygu marchnadoedd y dyfodol a'r cynhyrchion newydd sy'n hanfodol ar gyfer llwyddiant parhaus. Mae lefel yr arian sydd ar gael yn dibynnu ar faint pob busnes. Ond os ydych yn cyflogi llai na 50, gallai myfyriwr ymchwil ôl-raddedig gostio cyn lleied â £2,500 y flwyddyn i'ch busnes mewn cyflogau ac mewn cyfraniad cyfwerth o fath arall o ddim ond £1,500 y flwyddyn. 

Dyma'r manteision i fusnesau

Gwaith ymchwil a datblygu yw'r tanwydd sy'n pweru'r busnes yn ei flaen. Am gost ryfeddol o isel, gallwch wneud gwaith ymchwil hynod o soffistigedig am adeiladu busnes ar lefel Meistr Ymchwil a PhD sy'n agor y drysau i farchnadoedd y dyfodol, sy'n darparu cyfleoedd i gynhyrchion newydd ac sy'n sicrhau parhad mewn tyfiant a llwyddiant. Wrth gydweithredu gydag un o'n prifysgolion uchel eu parch, byddwch yn gweithio gydag academyddion talentog ac yn denu ymchwilwyr newydd gyda chymwysterau uchel i mewn i'ch busnes. Ar ben hynny, bydd y cyfleoedd gwerthfawr i farchnata a chysylltu â'r cyhoedd a gynhyrchir gan y prosiect yn gwneud eich busnes yn sefydliad rheng flaen uchelgeisiol hynod o fedrus.

Pa gymorth sydd ar gael i chi?

Mae manteision ariannol sylweddol mewn bod yn bartner busnes yn y rhaglen KESS. Gall buddsoddi mewn gwaith ymchwil a datblygu fod yn gostus i nifer o fusnesau bach a chanolig, ac eto, gyda chymorth KESS, mae'n bosibl cael gafael ar waith ymchwil o'r radd flaenaf mewn ffordd fforddiadwy ac ymarferol. Mae lefel y cyllid KESS a dderbyniwch yn dibynnu ar faint eich busnes a nifer y bobl a gyflogwch. Ond, fel esiampl, os ydych yn cyflogi llai na 50 o bobl, gallai myfyriwr ymchwil ol-raddedig gyda lefel uchel o sgiliau gostio cyn lleied â £2,500 y flwyddyn i'ch busnes mewn cyflogau a chyfraniad cyfwerth o fath arall o ddim ond £1,500 y flwyddyn.

Dyma eich ymrwymiad chi

Am eich bod yn derbyn ein cymorth KESS byddwn yn gofyn ymrwymiad gennych chi. Bydd raid i ni deimlo'n fodlon bod y gwaith ymchwil yn berthnasol, o safon uchel ac y bydd yn dod a buddiannau economaidd i'ch busnes, ac i'ch sector cyfan. 

Bydd y myfyriwr ymchwil yn gwario o leiaf 1 mis y flwyddyn gyda'ch cwmni chi, a bydd y prosiect yn cael ei fonitro'n agos drwy adrodd chwarterol-adroddiad a gwblhawyd ac a lofnodwyd gan y 3 pharti (eich busnes, y brifysgol a'r myfyriwr ymchwil). 

A yw eich busnes chi'n gymwys?

Er mwyn i'ch busnes fod yn gymwys mae'n rhaid i chi fod yn gweithredu yn un o'r ardaloedd cydgyfeirio diffiniedig yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd. Yn ogystal, mae'n rhaid i'ch prosiect ymchwil a datblygu fod wedi'i gysylltu ag un o'r sectorau dilynol sydd a blaenoriaeth gan Llywodraeth Cymru:

  • Yr Economi Digidol
  • Yr Economi Carbon Isel
  • Gwyddorau Bywyd ac Iechyd
  • Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Uwch

Ffoniwch linell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

KESS eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Cronfeydd yr UE yng Nghymru

Rhestr Wirio Rhaglen Cronfeydd yr UE yng Nghymru
Ardal Cyflenwi Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
European Social Fund
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Llywodraeth Cymru