CANLLAW CAM WRTH GAM AT GYNEFINO

  • Cam 1 - Cyn i'r cyflogai ddechrau:

    Anfonwch wybodaeth ddefnyddiol am eich sefydliad at y cyflogai. Penderfynwch pwy fydd yn cwrdd â'r cyflogai ar Ddiwrnod 1 a pharatowch le gwaith, cyfrineiriau, cerdyn cofnodi oriau ac ati. Ystyriwch benodi mentor neu gyfaill.
  • Cam 2 - Diwrnod cyntaf:

    Peidiwch â gorlwytho'r diwrnod cyntaf gyda gormod o wybodaeth. Ewch am daith o'r swyddfeydd / lleoliadau a'i gyflwyno i reolwyr a chydweithwyr allweddol. Trafodwch ofynion iechyd a diogelwch.
  • Cam 3 - Wythnos gyntaf:

    Darparwch wybodaeth fanwl am y sefydliad, sut mae'n gweithio, gwerthoedd, cyfleusterau.
    Eglurwch brosesau rheoli perfformiad a gofynion hyfforddiant cychwynnol.
  • Cam 4 - Mis cyntaf:

    Gwiriwch yn rheolaidd bod y cyflogai yn ymgartrefu ac a oes angen hyfforddiant neu coetsio pellach. Rhowch adborth ar ei berfformiad hyd yma.
  • Cam 5 - Tair mis:

    Gwiriwch berfformiad y cyflogai - llwyddiannau a meysydd i'w gwella. Cytunwch ar unrhyw anghenion cefnogi / hyfforddiant ychwanegol ac ati.
  • Cam 6 - Chwe mis:

    Penderfynwch a yw'r cyflogai wedi cwblhau ei gyfnod prawf yn llwyddiannus neu'r camau nesaf. Rhannwch yr asesiad o'r cyfnod prawf a chytuno ar y nodau ar gyfer y 6 mis nesaf.

Lawrlwythwch