CANLLAW I EICH DYDDLYFR MYFYRIOL
Y nod ........
Nid yw cael gafael ar eich syniadau eich hun yn anodd, yn syml mae’n golygu ymrwymiad i fyfyrio yn ddyddiol.
1. Prynwch ddyddlyfr. Nid yw ysgrifennu ar-lein yn darparu'r un manteision ag ysgrifennu â llaw. Felly, prynwch un papur sy'n rhoi rhyddid i chi fod yn greadigol. Gallwch gynnwys syniadau, lluniau, ffotograffau, post-its, gwahanol liwiau - mewn gwirionedd unrhyw ffordd yr hoffech bersonoli'ch dyddlyfr a'i wneud yn ddiddorol.
2. Ymrwymwch i fyfyrio am 15 munud y dydd. Dyma'r cam anoddaf o bell ffordd, felly, os yw 15 munud yn ymddangos yn amhosibl dechreuwch gyda phum munud, ond dechreuwch yn rhywle.
3. Dewch o hyd i le tawel. Rhywle na fydd dim byd yn tarfu arnoch.
4. Dewiswch yr amser cywir. Yn ddelfrydol yr un pryd bob dydd pan na fydd dim ymyriad arnoch. Mae dechrau neu ddiwedd pob dydd yn cynnig y cyfleoedd gorau i fyfyrio, ond dewiswch amser sy'n gweithio i chi.
Gwarchodwch y 15 munud yn ofalus yn eich agenda fel apwyntiad gyda chi'ch hun.
5. Ysgrifennwch beth bynnag sy'n dod i'r meddwl. Mae tudalennau gwag dyddlyfr yn eich gwahodd i gynnal sgwrs onest gyda’ch hun bob dydd. Yn y dyddlyfr, gallwch ddweud unrhyw beth, felly, rhowch ganiatâd i chi ddilyn eich ffrwd o ymwybyddiaeth heb feirniadu, cwtogi, neu geisio cyfeirio lle y gallai eich meddyliau fynd â chi.
Defnyddiwch luniau, lluniadau, lliwiau, diagramau. Peidiwch â phoeni am ramadeg na sillafu, mae sut bynnag yr ydych yn mynegi eich hun yn iawn.
6. Peidiwch â rhannu eich dyddlyfr gydag unrhyw un. Eich myfyrdodau chi ydynt ac nid ydynt i unrhyw un arall. Maent yn ei roi i chi’r hyn na all unrhyw nifer o arbenigwyr, cynghorwyr a coetswyr gweithredol eu cynnig i chi - eich persbectif unigryw eich hun.
Y cwestiynau ........
Os ydych chi'n teimlo nad ydych yn gwybod sut i ddechrau pan fyddwch chi'n wynebu tudalennau gwag y dyddlyfr, dyma rai cwestiynau i’ch rhoi ar ben ffordd:
- Pa bethau arwyddocaol a ddigwyddodd i mi yn y gwaith heddiw? Disgrifiad o'r digwyddiadau a phwy oedd yn gysylltiedig.
- Beth wnes i ei gyflawni heddiw? Byddwch yn benodol, nid yn amwys.
- Beth wnes i ei ddysgu yn y gwaith? Gall yr atebion amrywio o’r rhyngbersonol, "Dysgais sut i ddweud na i derfyn amser afresymol", i rai seiliedig ar sgiliau, "Dysgais sut i ddefnyddio siart Gantt". Ceisiwch fod yn benodol a’r mwyaf trylwyr ydych chi yma, po fwyaf y gallwch ei ddysgu ohono.
- Sut ydw i'n teimlo ar hyn o bryd? Dyma gyfle i fod yn agored i niwed, i ymlacio, i fod yn agored heb ofni sut y gallai eraill ymateb. Os ydych chi'n teimlo'n bositif neu'n teimlo ymdeimlad o gyflawniad, cofnodwch hyn hefyd.
- Sut allwn i fod wedi gwneud heddiw yn well? Mae'n well gan lawer ohonom, pan yn anfodlon â'n diwrnod, i’w anghofio neu symud heibio mor gyflym a thawel â phosib. Ond, trwy ofyn i chi'ch hun sut y gallech fod wedi gwneud y diwrnod yn well rydych yn gorfodi'ch ymennydd i edrych am welliannau. Efallai bod eich diwrnod wedi bod yn straen, ond peidiwch â'i ddiystyru nes i chi ddysgu rhywbeth ohono. Edrychwch am un peth y gallwch ei wneud, i naill ai ei atal rhag digwydd eto neu i'ch helpu i ddelio ag ef yn fwy effeithiol.
- Beth yw'r 2 beth pwysicaf sy'n digwydd y tu allan i'm grŵp gwaith ar hyn o bryd? Gallai hyn fod yn rhywle arall yn eich busnes neu yn y diwydiant yn gyffredinol. Mae'n eich helpu i ganolbwyntio ar y byd gwaith ehangach a thu hwnt, ac nid dim ond ar eich tîm eich hun.
- Beth yw fy mhrif flaenoriaethau yn y gwaith heddiw neu yfory?