Cydraddoldeb


Y Gallu i Fonitro Polisïau a Gweithdrefnau Ochr yn Ochr ag Anghenion Busnes Beunyddiol

Mae’r coronafeirws a’i effaith ar economi Cymru wedi creu nifer o heriau newydd i fusnesau. Mae cynnal arferion gwaith da yn un o’r heriau hynny, ynghyd â monitro polisïau a gweithdrefnau ochr yn ochr â'r ymdrech i ddiwallu anghenion busnes beunyddiol.

Roedd sefydliad sector cyhoeddus mawr, gyda dros 4,000 o weithwyr, a’i Undebau Llafur cydnabyddedig, wedi gwahodd Acas i gynnal Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb Rhywedd o’i System Tâl a Graddio.

Prif nod y broses oedd sicrhau bod staff yn cael eu talu yn ôl eu sgiliau, er bod y sefydliad yn awyddus i fynd ymhellach na dim ond sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan ofyn am gyngor gan Acas ar dâl teg mewn perthynas ag anabledd, ethnigrwydd a nodweddion gwarchodedig eraill. Gan fod Acas wedi cael amrywiol ddata dienw am weithwyr, roedd un o Uwch Gynghorwyr Acas wedi gallu dadansoddi’r data a chyflwyno argymhellion ar gydraddoldeb tâl: gan gyfrannu at strategaethau a pholisïau tâl a chydraddoldeb y sefydliad, nid dim ond nawr ond i’r dyfodol.  

Drwy ddewis gofyn am gyngor gan Acas ac ymgysylltu ag ef, roedd y sefydliad sector cyhoeddus wedi gallu cael darlun cliriach o i ba raddau roedd yn diwallu ei gyfrifoldebau fel cyflogwr. Yn y pen draw roedd hyn wedi arwain at wella eu harferion gwaith ac ansawdd y gwaith a oedd yn cael ei gynnig i’w staff.