Hiut Denim

Claudio o Hiut Denim yn dangos nid oes gan unrhyw un dyddiad ar ei orau cyn
Claudio o Hiut Denim yn dangos nid oes gan unrhyw un dyddiad ar ei orau cyn

“Mae ein Harbenigwyr yn helpu i greu cenhedlaeth newydd o gynhyrchwyr jîns”

Daeth Hiut Denim â gwaith cynhyrchu jîns yn ôl i Aberteifi ar ôl i’r ffatri flaenorol, a oedd yn cyflogi 10 y cant o’r boblogaeth leol, gau. Mae Claudio Belotti yn arbenigwr creu jîns yn Hiut ac wedi bod yn cynhyrchu jîns ers dros 40 mlynedd.

Mae Claudio a’r cwmni nawr yn cefnogi menter Oes o Fuddsoddi Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn ystod Wythnos Sgiliau Gwaith, sy’n pwysleisio i gyflogwyr ledled Cymru pa mor bwysig yw cadw gweithwyr hŷn.

Mae’n rhybuddio cyflogwyr y bydd un o bob tri pherson o oedran gweithio dros eu hanner cant o fewn y pum mlynedd nesaf. Felly, mae buddsoddi mewn sgiliau gydol oes waith gweithiwr yn bwysicach nag erioed.

“Dwi wedi colli cownt ar faint o jîns dwi wedi’u creu gydag eraill. Fe allai fod yn gannoedd ar filoedd. Dwi wedi bod yn eu creu ers i mi adael ysgol yn 15 oed,” meddai Claudio.

“Dechreuais weithio yn adran dorri ffatri leol a dysgu fy nghrefft yno; ro’n i yno am 38 o flynyddoedd. Tyfais gyda’r ffatri ac wrth iddi dyfu a thyfu, gan gynhyrchu 35,000 pâr o jîns yr wythnos ar ei anterth, cefais fwy o gyfrifoldeb.”

Yn anffodus, cafodd swydd Claudio ei dileu pan roedd yng nghanol ei 50au ond ar ôl cael cynnig swydd gwasanaeth cwsmeriaid manwerthu yn Hwlffordd fe’i cyflwynwyd i David Hieatt, cyd-sylfaenydd yr Hiut Denim Company. 

Meddai Claudio: “Roedd gan David weledigaeth wych ar gyfer Hiut. Mae’r cwmni’n un arbennig; y deunyddiau, yr ansawdd, y bobl, y sgiliau. Mae wedi creu dyfodol newydd i Aberteifi.

“Un o’m dyletswyddau yw hyfforddi pobl ifanc sy’n ymuno â’r cwmni, i helpu i greu cenhedlaeth newydd o gynhyrchwyr jîns. Dwi’n hyfforddi bachgen ifanc o’r enw Robert i fod yn dorrwr ac fe fydd yn cymryd drosodd gen i ryw ddydd. Mae yna lawer i’w ddysgu a dwi’n dal i ddysgu; am ddeunyddiau gwahanol, toriadau gwahanol, a ffyrdd gwahanol o roi’r dilledyn at ei gilydd. Ond mae hynny’n rhan braf o’r gwaith.”

Meddai David Hieatt, cyd-sylfaenydd Huit Denim:  “Mae gan ein harbenigwyr, pobl fel Claudio, sgiliau eithriadol a phrofiad oes y maen nhw’n ei gyfrannu i’r cwmni bob dydd. Rydym wedi creu lle yma ble maen nhw’n gallu gwneud y gwaith gorau iddyn nhw ei wneud erioed a throsglwyddo’r sgiliau hynny i brentisiaid a fydd yn enaid a dyfodol y cwmni.

“Mae pob arbenigwr yma’n defnyddio 75 proses wahanol i gynhyrchu pob pâr o jîns. Maen nhw’n eithriadol. Maen nhw yma cyn 8 y bore ac yn gweithio tan 5 a’u huchelgais yw fy helpu i i ehangu’r cwmni a rhoi gwaith i fwy o bobl. Maen nhw am fwynhau bywyd – byw a heneiddio yma a rhannu eu sgiliau ag eraill.”