Halen Môn

Eluned o Halen Môn yn dangos nid oes gan unrhyw un ddyddiad ar ei orau cyn
Eluned o Halen Môn yn dangos nid oes gan unrhyw un ddyddiad ar ei orau cyn

Halen Môn yn dangos ei ymrwymiad i weithwyr hŷn.

Mae busnes teuluol o Ynys Môn wedi dangos ei ymrwymiad i fuddsoddi yn sgiliau ei weithwyr cyflogedig hŷn trwy gefnogi ymgyrch newydd Llywodraeth Cymru i herio stereoteipiau a dangos ‘nid oes gan unrhyw un ddyddiad ar ei orau cyn’. 

Mae Eluned Davies, sy’n 64 oed, yn Rheolwr Prosiect yn Tŷ Halen, Canolfan Ymwelwyr newydd Halen Môn, ac mae’r cwmni’n cefnogi menter Oes o Fuddsoddi Llywodraeth Cymru a lansiwyd yn ystod Wythnos Sgiliau Gwaith, sy’n pwysleisio i gyflogwyr ledled Cymru bwysigrwydd cadw eu gweithwyr hŷn.

Mae’n rhybuddio cyflogwyr y bydd un o bob tri pherson o oedran gweithio dros eu hanner cant o fewn y pum mlynedd nesaf, felly mae’n bwysicach nag erioed eu bod nhw’n buddsoddi mewn sgiliau gydol bywyd gwaith gweithiwr.

Mae’r ffaith bod Eluned wedi parhau i ddatblygu ei sgiliau, sy’n golygu ei bod hi wedi symud o sefydlu systemau cyfrifyddu i gael lle blaenllaw ar y bwrdd, wedi bod yn allweddol i’w chyfraniad at lwyddiant Halen Môn.
 
“Rwyf i wedi gweithio gydol fy mywyd, ond eto rwy’n teimlo nad ydw i wedi gwneud diwrnod o waith yn fy mywyd,” meddai Eluned. “Rwyf wedi bod wrth fy modd gyda phob swydd – maen nhw wedi bod fel hobïau rwyf wedi cael fy nhalu amdanyn nhw.”

Y tro cyntaf i Eluned weithio gyda sylfaenwyr Halen Môn oedd pan sefydlodd hi ei busnes ymgynghori ei hun ar ôl gadael llywodraeth leol 20 mlynedd yn ôl, gan helpu i greu system stoc a chyfrifyddu. Yna, aeth ymlaen i reoli atyniad i ymwelwyr yn Llanberis, i fod yn gynorthwyydd i gyfarwyddwyr gwesty ym Miwmares, gweithio fel rheolwr gyfarwyddwr menter gymdeithasol ac, ar ôl gweithio ar brosiectau gorchwyl a gorffen ar gyfer yr ymddiriedolaeth bywyd gwyllt leol, fe ymddeolodd. Dyna pryd y gofynnwyd iddi helpu gyda chynigion am gyllid ar gyfer y ganolfan ymwelwyr, cyn cael ei gwahodd i ymuno â’r bwrdd fel cyfarwyddwr anweithredol, yn goruchwylio a monitro adroddiadau perfformiad ar gyfer yr arianwyr.

Erbyn hyn, mae Eluned yn goruchwylio’r ganolfan ymwelwyr a’r siop: “Rwyf weithiau’n gweithio gyda’r nos – os yw grŵp yn gofyn am gael ymweld gyda’r nos, dydw i ddim yn hoffi gwrthod. Un o’r pethau sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i mi yw tywys pobl sy’n credu mai halen yw halen, a gweld yr agwedd honno’n newid wrth iddyn nhw adael fel llysgenhadon i Halen Môn. 

“Rwy’n ceisio helpu’r perchnogion, David ac Alison, gymaint ag y galla i. Er enghraifft, rwy’n gweithio ar ein dangosyddion perfformiad allweddol, yn enwedig y rhai sy’n gysylltiedig ag ymrwymiad y cwmni i gynaliadwyedd.”

Mae’r cwmni wedi cydnabod gwerth profiad Eluned a’r hyn y gall ei gyfrannu at y gweithlu ehangach.
 
“Mae’n anhygoel meddwl am y sgiliau rydych chi’n eu crynhoi gydol eich gyrfa, faint rydych chi’n ei ddysgu a’r hyder rydych chi’n ei gael trwy fynd i’r afael â materion sydd angen eu trafod. Mae agwedd gadarnhaol wedi bod gen i erioed, ac rwyf i wedi ceisio rhannu’r agwedd hon ym mhob tîm rwyf wedi gweithio ynddo. Os yw cydweithwyr yn sylweddoli bod gennych chi hyder yn eu gallu i ddysgu sgiliau newydd, maen nhw’n tueddu i eisiau gwneud eu gorau glas.”
 
Meddai David Lea-Wilson, cyd-sylfaenydd Halen Môn: “Eluned yw’r glud sy’n cadw’r ganolfan ymwelwyr gyda’i gilydd – rhywun sy’n cyfrannu oes o brofiad o waith sector cyhoeddus a phreifat a thrydydd sector at y busnes.

“Dim ond rhif yw oedran yn Halen Môn. Rydyn ni’n trin pob cydweithiwr a phob cais am swydd yr un fath, beth bynnag fo oedran yr unigolyn.”

Mae’r fenter hyfforddi a datblygu ddiweddaraf wedi gweld pob aelod o staff y ganolfan ymwelwyr, rhwng 21 a 64 oed, yn cwblhau cwrs Ymwybyddiaeth o Anabledd er mwyn gwella profiad twristiaid.