Canolfan Hamdden Halo

 

Mae Halo Leisure a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn sefydliadau rhagorol sy’n hyrwyddo agwedd aml-genhedlaeth ymhlith eu gweithluoedd a’u dosbarthiadau ymarfer corff. Y llynedd, fe wnaethon nhw ennill gwobr achredu genedlaethol, a oedd yn cynnwys canmoliaeth am eu canolfannau allgymorth a hamdden cymunedol, fel yr un yn Ogwr, sy'n cynnig dosbarthiadau ymarfer corff a gweithgareddau i bob cenhedlaeth.

Arweinydd un o’u grwpiau ymarfer corff poblogaidd yw’r hyfforddwr ffitrwydd Geoff Cheetham, 66, sy’n cynnig dosbarthiadau Tai Chi ac sydd newydd gael ei ddewis i gefnogi rhaglen hyfforddi staff y grŵp.

Yn 61 oed, ymddeolodd Geoff o yrfa ym maes tai, ac roedd yn dysgu Tai Chi yn y gymuned. Yna, yn ystod seibiant i wella ar ôl cael clun newydd, penderfynodd ddilyn cynllun hyfforddi i fod yn hyfforddwr campfa.

“Roeddwn i ddwywaith oed pawb arall ar y cwrs Hyfforddwr Campfa Lefel 2, ond yr un mor frwd,” meddai.

“Rydw i wedi cadw’n heini erioed, yn mynd i’r gampfa, rhedeg rasys hanner marathon a beicio, ac rwy’n ymwybodol o’r gwahaniaeth mae ymarfer corff yn gallu’i wneud. Bellach, rwy’n cynnal sesiynau ar gyfer dros 50 o bobl, y rhan fwyaf ohonyn nhw dros 50 oed.

“Mae meddylfryd amgen Halo tuag at oed – yn fy nghyflogi i pan oeddwn i’n hŷn ac yn bod mor gynhwysol tuag at gwsmeriaid hŷn sy’n dod i’w canolfannau – wedi bod yn fanteisiol, i’r sefydliad ei hun ac i’r cymunedau lleol. Mae’r cymysgedd oed yn y canolfannau yn wych ac yn parhau i ddatblygu, ac mae’n siŵr bod arbedion sylweddol o ran iechyd i’r pwrs cyhoeddus.”

Mae Prif Swyddog Gweithredol Halo, Scott Rolfe, yn cytuno. “Rydyn ni’n rhedeg canolfannau hamdden ledled Sir Pen-y-bont ar Ogwr ac yn cynnig rhaglenni i bawb yn y gymuned, ifanc a hen, teuluoedd, clybiau chwaraeon ac athletwyr sy’n hyfforddi ar gyfer cystadlaethau.

“Mae ein llwyddiant yn ddibynnol ar bobl fel Geoff, sydd nid yn unig yn cyflwyno profiad bywyd i’n cohort staff ond sydd hefyd yn frwd eu cefnogaeth i’n hamcanion.

“Mae’r byd gwaith yn rhoi hyder a phrofiad i bobl sy’n anodd ei fesur, ond mae’n hynod o bwysig mewn rolau sy’n delio â chwsmeriaid,” meddai Geoff. “Rwy’n credu bod Halo yn cydnabod hynny. Rwy’n falch i fod yn aelod o’r tîm, ac yn llysgennad dros ffitrwydd i’r rhai dros 50 oed.

“Rydyn ni’n gweld mwy o ddynion hŷn yn ymuno â’r dosbarthiadau a rhoi cynnig arni, oherwydd eu bod nhw’n gweld rhywun fel fi’n neidio ar hyd y lle o flaen y dosbarth ac yn sylweddoli eu bod nhw’n gallu gwneud hynny hefyd!”