Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

 

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ganolfan ymchwil a chadwraeth arbenigol, ac yn gartref i rai o blanhigion mwyaf prin y byd, yn cynnwys ambell un sydd ddim ond yn tyfu yng Nghymru.

Ymunodd Paul Smith, 55, â’r tîm yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar ôl ymddeol o fod yn athro, gan ddod yn gyfrifol am drefnu rhaglen addysgol y sefydliad. Mae Paul yn croesawu 12,000 o wahanol blant ysgol i’r ardd bob blwyddyn, gan gynnig gwersi ble nad oes terfyn ar ddychymyg, ar bynciau fel hela meteoritau, ymwybyddiaeth ofalgar wrth dân gwersyll ac adeiladu llong môr-ladron.

Meddai Cyfarwyddwr yr Ardd Fotaneg, Huw Francis: “Mae angerdd a brwdfrydedd Paul pan mae’n addysgu’r plant yn heintus. Mae’n ystyried y rhaglen addysgu ysgolion fel cyfle anhygoel i feithrin diddordeb ymhlith plant tuag at wyddoniaeth a’r byd naturiol, ac mae hynny’n dod i’r amlwg yn ystod y gwersi. Mae’n eu gwneud nhw’n hwyl ac yn atyniadol ac mae’r plant yn gadael wedi cyffrôi oherwydd yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu.

“Mae’r sgiliau y mae Paul a’i dîm o addysgwyr a chyn-athrawon yn eu cyflwyno i’w gwaith yn sgiliau sydd wedi eu meithrin gydag oedran a phrofiad mewn ysgolion ledled y wlad. Maen nhw’n hyblyg ac yn greadigol eu meddyliau ac maen nhw wedi creu rhaglen addysgol gyffrous yma, gyda gwersi’n lledaenu ar draws y safle i danio dychymyg plant ac oedolion fel ei gilydd.”

Meddai Paul: “Mae rhannu’r hyn sydd gennym yma yn fy llenwi i â llawenydd.

Yr hyn sy'n wirioneddol gyffrous yw ein bod wedi gallu datblygu syniadau heb ffiniau amserlen ysgol. Rydyn ni’n creu pecynnau pwrpasol i weddu i'r ysgolion a'u grŵp penodol o ddisgyblion, yn ogystal â phecynnau y gallwn eu defnyddio wrth estyn allan i'r gymuned i rannu syniadau. Mae hyn yn cynnwys syniadau addysgu awyr agored a ‘gwahanol’ ar gyfer cefnogi cwricwlwm creadigol newydd Llywodraeth Cymru.”

Yn ôl Paul, mae ei swydd yn llawn dop o hoff brofiadau, yn cynnwys defnyddio’i brofiad blaenorol mewn ysgolion i blant ag anghenion arbennig a gweld eu pleser wrth ganfod ffyrdd amgen o ddysgu yn yr Ardd. Mae hefyd yn falch o’r sesiynau mae ei dîm wedi eu datblygu ar gyfer oedolion ag anafiadau i’w hymennydd. “Yn gymdeithasol ac yn gorfforol, maen nhw’n sesiynau sy’n wirioneddol wych ar eu cyfer.” Ar hyn o bryd, mae ei dîm yn edrych ar unrhyw fylchau eraill y gellid eu llenwi, yn cynnwys gweithgareddau grŵp ar gyfer pobol ifanc ag anhwylderau bwyta a chymorth grŵp i’w rhieni.

“Mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd,” meddai, cyn neidio ar gefn ei feic a beicio am adref dros y mynyddoedd ar ôl diwrnod cofiadwy arall yn y gwaith.”