Safety Media

 

Pan ddaeth Louise Taylor am gyfweliad gyda’r cwmni meddalwedd arobryn Safety Media, cynigwyd swydd iddi yn y fan a’r lle, oherwydd bod ei sgiliau a’i phrofiad yn berffaith ar gyfer rôl Rheolwr Llwyddiant Cwsmer.

Rhoddwyd cyfle iddi ailffurfio’r model cefnogi cwsmeriaid, rheoli lansio cynnyrch a hyfforddi staff. Yn ôl Louise, sy’n 51 oed, mae ei swydd bellach yn ymwneud â chynnig cefnogaeth dechnegol a hyfforddiant i gwsmeriaid corfforaethol mwy'r cwmni - a mynd ati’n rhagweithiol i sicrhau eu bod yn teimlo fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn ymgysylltu â’r feddalwedd a brynwyd ganddynt.

Roedd Louise wedi bod yn ystyried ymddeol yn gynnar ar ôl dros 20 mlynedd gyda grŵp bancio HSBC, ond amharwyd ar ei chynlluniau pan gollodd ei swydd, a hithau yn ei 40au. Bellach, mae’n mwynhau ei swydd newydd i’r fath raddau fel nad yw ymddeol ar ei meddwl o gwbl.

“Gyda HSBC, roeddwn i’n rheolwr gweithredu a hyfforddi ar gyfer y system fancio rhyngrwyd fyd-eang yng ngogledd orllewin y DU. Er bod Safety Media yn gwmni llai, rwy’n defnyddio llawer o’r un sgiliau, ac yn cefnogi cwsmeriaid ledled y DU ac ar draws y byd.”

Ond mae Louise wedi dod â llawer mwy na sgiliau meddalwedd i Safety Media.

Meddai Louise “Rwy’n credu ei bod yn demtasiwn i gwmnïau i chwilio am bobl ifanc ar gyfer swyddi TG, gan ddisgwyl eu bod nhw’n fwy cyfarwydd â meddalwedd.

“Mae graddedigion dawnus iawn yn gweithio i’r cwmni sydd wedi dysgu cryn dipyn i mi, ond mewn rôl fel fy un i, nid yn unig mae gen i ddealltwriaeth o TG a’r meddalwedd rydyn ni’n ei werthu, ond blynyddoedd o brofiad gwasanaethu cwsmeriaid hefyd. Y profiad hynny sy’n rhoi sgiliau cydweithio a sgiliau sgwrsio i chi; dealltwriaeth o sut i gefnogi pobl mewn rolau gwahanol, sydd â gwahanol raddfeydd o wybodaeth TG, hyd yn oed lefel isel iawn.

“Pan fydd aelodau iau’r tîm angen cefnogaeth gyda’r sgiliau hynny, ar fy nrws i maen nhw’n cnocio,” meddai. “Dyma’r pethau na wnewch chi eu dysgu yn y brifysgol ond maen nhw’n bethau sydd eu gwir angen arnoch chi - a thrwy weithio gyda phobl eraill rydych chi’n eu dysgu nhw.”

Ychwanega’r Rheolwr Cyffredinol, Chris Chappell “Rwy’n credu y gall cwmnïau fethu â rhoi digon o bwyslais ar bwysigrwydd sgiliau meddal i gwmni fel ein un ni, a sut mae cyflogeion profiadol yn eu cyflwyno i fusnes.

“Mae ein dull recriwtio, a’r diwylliant a grëwyd yma, wedi creu deinamig sylweddol. Mae pobl yn gallu rhannu eu profiad a’u gwybodaeth gyda’i gilydd, ac o ganlyniad, mae pawb ar eu hennill.”

“Yn hytrach na’n gwahanu ni, rwy’n teimlo fod oedran yn ein tynnu ni at ein gilydd ac yn gwneud y cwmni’n gryfach,” meddai Louise.