Sŵ Fynydd Gymreig Bae Colwyn

 

Pan ymunodd Andrew Crabtree â Sŵ Mynydd Cymru’r llynedd, yn 59 oed, fel Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr, roedd y cyfarwyddwyr yn gwybod y byddai ei gyfoeth o brofiad mewn rheolaeth manwerthu yn eithriadol o fuddiol i’r tîm ehangach.

Nododd Jennifer Jesse, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Gweinyddiaeth Sŵ Mynydd Cymru: “Gyda’r profiad a’r wybodaeth a enillwyd ganddynt yn ystod eu bywyd gwaith, gall gweithwyr hŷn fod yn amhrisiadwy i weithlu. Mae modd rhannu a throsglwyddo’r set sgiliau a ddatblygwyd ganddynt dros y blynyddoedd, sydd yn arbennig o fuddiol i aelodau iau’r tîm.”

Andrew yw’r person cyntaf i groesawu ymwelwyr i’r 37 erw o dir sy’n gartref i Sŵ Mynydd Cymru ym Mae Colwyn. Mae’n deall pwysigrwydd y croeso sy’n cael ei roi o’r eiliad mae rhywun yn cerdded i mewn i’r sŵ, ac yn gwybod fod y croeso hwnnw’n helpu i wneud y profiad yn un mor hudol a chofiadwy ag sy’n bosibl. Boed pobl yn holi am y ffordd i weld y tsimpansïaid neu’r ffordd i’r tai bach, mae’n rhoi gwybod iddynt gyda gwên ar ei wyneb.

Meddai Andrew: “Pan wnes i adael fy swydd yn y byd manwerthu, roeddwn i’n bryderus y byddai’n anodd dechrau mewn maes newydd, ond o’r eiliad i mi ddechrau fy nghyfweliad am swydd yma, roeddwn yn gwybod fy mod eisiau bod yn rhan o’r sefydliad. Pan gefais y swydd, roeddwn wrth fy modd o’r diwrnod cyntaf oll, ac roeddwn i’n falch o gael newid ar ôl gweithio ym maes manwerthu cyhyd.”

Nid Andrew yw’r unig ‘weithiwr hŷn’ yn Sŵ Mynydd Cymru. Ymunodd y Prif Arddwr, Dai Richardson, â’r sŵ ddeg mlynedd yn ôl wedi iddo adael busnes garddwriaethol mawr yn Llundain a phenderfynu adleoli yn ei ôl i Gymru.

“Pan welais i’r gerddi eang a hanesyddol yn y sŵ am y tro cyntaf, roeddwn i wedi gwirioni gyda’r syniad o weithio yma. Rwyf wedi bod ag angerdd am arddio erioed, ac roedd meddwl am wneud hynny fel bywoliaeth yn gwireddu breuddwyd,” meddai Dai.

“Mae fy mhrofiad hir o weithio yn y diwydiant garddwriaethol wedi rhoi stôr o syniadau i mi am ffyrdd o dirlunio’r 37 erw sydd yma. Nawr, pan fydd cyfoedion yn gweld beth rwy’n ei wneud, a chymaint rwy’n mwynhau fy ngwaith, maen nhw mor genfigennus. Rwy’n annog unrhyw un dros 50 oed i feddwl am yr hyn y gallen nhw ei wneud nesaf a lle gallen nhw ddefnyddio eu profiad a’u sgiliau mewn ffyrdd newydd.”