Amcanu
Weldiwr 56 oed yn tanio dyfodol cwmni o Sir Gâr
Roedd Paul Evans yn 16 oed pan adawodd yr ysgol. Roedd ei ddiwrnod olaf ar ddydd Gwener ac fe ddechreuodd weithio fel weldiwr y dydd Llun canlynol. Roedd ei swydd newydd gydag Amcanu, sydd bellach yn gwmni byd-eang, ond a oedd ar y pryd yn gwmni teuluol bach ym Mhorth Tywyn yn Sir Gâr.
40 mlynedd yn ddiweddarach, y dyn 56 oed yw Arweinydd Tîm Siop Weldio’r cwmni sy’n dylunio ac adeiladu llociau diwydiannol metel o’r radd flaenaf.
“Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y swydd a doeddwn i ddim eisiau mynd i’r coleg, felly fe ddysgais i’r gwaith yma ar lawr y ffatri. Fe ddechreuais i dorri metel gyda llifiau a driliau, ac yna dysgais i sut i weldio. Rydych chi’n gwylio, rhoi cynnig arni, gwrando a dysgu. Rydych chi’n gwneud hynny drosodd a throsodd hyd nes y byddwch chi’n ei wneud yn iawn. Roedd pwyslais cryf ar ansawdd. Allwch chi ddim torri corneli yma,” meddai Paul
“Rwyf wedi dilyn rhai cyrsiau byr yn y coleg lleol pan oeddwn i angen gwybodaeth arbenigol am fath penodol o weldio, ond rwyf wedi dysgu’r rhan fwyaf o bethau yma yn y ffatri ac, erbyn hyn, rwy’n ffyddiog y gallwn i wneud unrhyw beth.”
Mae Paul wedi bod yn fforman am 25 o’i 40 mlynedd yn Amcanu ac, ar hyn o bryd, mae’n gyfrifol am dîm o 8, gan gynnwys prentisiaid.
Meddai: “Rwy’n addysgu’r prentisiaid y ffordd y cefais i fy addysgu. Rwyf am fod yn deg i bawb, gan ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i gynhyrchu’r gwaith o safon uchel y mae Amcanu’n ei ddisgwyl ac yn adnabyddus amdano.
“Mae’n wych cael cyfrannu at feithrin y tîm a gwylio’r cwmni’n tyfu. Fe fydda i’n parhau i weithio fel hyn tan fy niwrnod olaf.”
Meddai Owain Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Amcanu: “Mae gweithwyr hŷn yn ased ac mae angen i ni floeddio amdanyn nhw, yn uwch ac yn amlach. Rydyn ni’n elwa cymaint ar eu profiad. Maen nhw’n athrawon gwych sy’n gallu ysbrydoli eraill. Maen nhw’n deall nad yw methiant yn air drwg. Rydych chi’n dysgu mwy amdanoch chi’ch hun a’r swydd pan rydych chi’n gwneud rhywbeth o’i le ac yn myfyrio ar hynny nag os ydych chi’n gwneud popeth yn iawn drwy’r amser. Mae eu llwyddiant yn magu llwyddiant.”