Funky Little Chickens
Mae salon o Gaerdydd sy’n helpu i osgoi dagrau wrth dorri gwalltiau plant bach, yn cefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru sy’n herio stereoteipiau ac yn dangos nad oes gan unrhyw un ‘ddyddiad ar ei orau cyn’.
Mae salon torri gwallt plant Funky Little Chickens yn Nhredelerch yn cefnogi’r ymgyrch sy’n darparu pecyn cymorth i berchnogion busnes allu datblygu gweithlu o bob oed.
Mae’r salon, sy’n caniatáu i blant bach gael torri’u gwalltiau mewn seddi arbennig siâp ceir rasio wrth iddyn nhw wylio DVD ac yfed siocled poeth neu ysgytlaeth, yn cyflogi naw o bobl – ac mae tri ohonyn nhw dros 50 oed.
Dywedodd y perchennog Jeni Law o Lanrhymni, fod y grwpiau oedran cymysg – yn staff a chwsmeriaid fel ei gilydd – yn helpu i sicrhau bod y salon yn llwyddiant.
Er bod llawer o aelodau’r tim yn eu hugeiniau, mae ei mam, Gill Addicott, 65 oed, yn gweithio fel derbynydd, a’r steilydd gwallt, Kate Crompton, yn 50 oed fis Chwefror nesaf.
Mae’r salon ar Heol Lamby hefyd yn cyflogi Fiona Akpinar, 58 oed, fel hyfforddwr tylino babanod ar gyfer rhai mor ifanc â phum wythnos oed.
Fe wnaeth Jeni gwrdd â Fiona pan oedd y cyn dechnegydd fferyllol yn rhoi triniaeth therapi holistaidd i dad Jeni, sef yr entrepreneur o Gaerdydd Stephen Addicott, fu farw o diwmor yr ymennydd yn 2012.
Treuliodd Fiona 12 mlynedd ar ddialysis oherwydd cyflwr ar yr arennau a chafodd drawsblaniad aren, ac roedd wedi cael diagnosis o ganser y fron ac wedi gorffen cwrs o gemotherapi pan gynigodd Jeni swydd iddi yn y salon.
Gan fod Fiona, yn dioddef o osteoporosis ac felly’n cael trafferth sefyll am gyfnodau maith neu wneud gwaith corfforol trwm, mae’r oriau hyblyg yn golygu nad yw hi’n blino gormod wrth ei gwaith.
"O gofio fy mhroblemau iechyd a’m hoedran, dw i’n amau a fyddai llawer o gyflogwyr wedi rhoi cyfle i mi fel y gwnaeth Jeni,” meddai.
"Alla i ddim dechrau gweithio’n gynnar, felly mae’n gadael i mi ddewis fy oriau a gweithio unwaith yr wythnos. Os gallwch chi fod yn hyblyg i aelod hŷn o’r staff, yna byddan nhw’n talu’n ôl gyda ffyddlondeb, brwdfrydedd a balchder ym mhopeth maen nhw’n ei wneud."
Meddai Jeni, 39 oed, a agorodd y salon yn 2013: “Mae pobl yn dod yn ôl i’r salon oherwydd Fiona, ac mae ei hoedran yn golygu bod ganddi gysylltiadau gwych ac mae cymaint yn ei hadnabod a’i hoffi yma.
“Yn ogystal â bod yn wych wrth ei gwaith, mae hi hefyd yn gydwybodol ac yn casáu siomi eraill – rhai o’r rhinweddau a gewch chi gan rywun â mwy o brofiadau bywyd, yn fy marn i. Mae’r cymysgedd o oedran yn golygu bod cryn dipyn o rannu sgiliau yma. Dw i’n helpu Fiona gyda’r cyfryngau cymdeithasol, ac mae’r merched iau yn gosod ei chyfarpar at ei gilydd, ac mae pawb yn dysgu oddi wrth ei doethineb a’i natur bwyllog.
“Hoffwn i gyflogi hyd yn oed mwy o bobl hŷn, a dw i’n credu bod unrhyw fusnes sy’n diystyru gallu rhywun i weithio ar ôl cyrraedd oedran arbennig yn cymryd cam gwag.”