Peter Lynn & Partners

Cyfeirir yn aml at faes y gyfraith fel un sy’n gwerthfawrogi profiad, ac mae llawer o bobl yn arbenigo neu hyd yn oed yn cymhwyso yn hwyrach yn eu hoes – gydag enwau blaenllaw fel David Rowntree, cyn drymiwr y grŵp Blur sydd bellach yn dwrne.

“Mae gan gyfreithwyr oes hir, ac mae’n un o’r galwedigaethau hynny lle mae oedran yn fonws,” meddai Peter Lynn, partner-sylfaenydd y cwmni o Abertawe. “Dw i’n adnabod rhai cyfreithwyr sy’n dal i weithio yn eu hwythdegau a’u nawdegau.”

Mae Peter Lynn a’i Bartneriaid yn cyflogi gweithlu pob oed, gyda’r aelod ieuengaf o’r staff yn 16 oed a’r hynaf yn 68 oed. Dywed Peter fod twf y cwmni, a lansiwyd ym 1999 gyda dau bartner ac sydd bellach yn cynnwys deugain a mwy o weithwyr dros chwe swyddfa, yn bosib diolch i ymroddiad aelodau mwyaf profiadol o’r tîm.

Dyma un o’r cwmnïau cyfreithiol mwyaf yng Nghymru, gyda chleientiaid yn amrywio o unigolion, teuluoedd a busnesau newydd i ddatblygwyr eiddo cenedlaethol, clybiau pêl-droed yr uwchgynghrair ac awdurdodau lleol. Yn ôl Peter, mae cleientiaid sy’n mynd drwy amgylchiadau heriol yn eu bywydau yn cael cysur o dderbyn cyngor gan rywun o’r un oed â nhw.

“Rydyn ni wedi ehangu trwy recriwtio pobl dros eu hanner cant”, meddai Peter, 51 oed. “Os ydych chi’n mynd trwy ysgariad, er enghraifft, rydych chi angen cyfreithiwr profiadol a thrugarog – nodweddion sy’n aml yn dod gydag oed.”

Ymunodd Mayda Thomas â’r busnes bedair blynedd yn ôl, i arwain adran o gyfreithwyr trawsgludo, llawer ohonynt wedi colli’u gwaith yn ystod y dirwasgiad.

Meddai Peter: “Roedden ni’n ddigon ffodus i allu ehangu yn ystod y dirwasgiad. Wrth i’r adran honno ehangu, roedden ni angen pâr saff o ddwylo a rhywun oedd wedi rheoli ar y lefel uchaf. Mae Mayda wedi bod yn hollbwysig wrth helpu’r cwmni i dyfu, ac fe ddaeth hi atom gyda phroffesiynoldeb llwyr.”

Dywedodd Mayda, 58 oed o Dregŵyr, sydd hefyd yn darlithio ac yn hyfforddi yn y gyfraith, ei bod hi’n ffynnu wrth fentora aelodau iau o’r tîm i ffeindio’u traed mewn proffesiwn mor brysur.

“Mae ’da fi 30 mlynedd o brofiad, felly rwy’n gallu helpu os ydyn nhw’n becso am wneud camgymeriad. Dw i wedi bod yno, wedi bod drwyddi, ac wedi gwneud yr un math o gamgymeriadau. Yn bersonol, dw i wrth fy modd gydag egni ein haelodau iau o’r tîm, eu hyder i roi cynnig arni, a dw i’n dysgu rhywbeth newydd gan un ohonyn nhw bob dydd.”

Mae Mayda wedi gweithio’n rhan-amser byth ers cael dau o blant, ac mae’n credu bod cynnig dulliau gweithio hyblyg yn allweddol i gwmnïau ddal eu gafael ar weithwyr hŷn.

Gall staff weithio o gartref fel bo’r angen, a chynigir oriau hyblyg iddyn nhw, gyda’r opsiwn o weithio ar system fonws fel y gall cyfreithwyr ddewis pryd maen nhw’n ennill. Er mwyn sicrhau bod pawb yn rhannu sgiliau, mae uwch gyfreithwyr yn cael eu ‘paru’ â pharagyfreithwyr.

Meddai Peter: “Mae’n gweithwyr iau yn gallu rhannu popeth, o ddiweddaru TG i safbwynt newydd ar gyfathrebu gyda’u grŵp oedran, gyda gweithwyr hŷn yn cyflwyno clod a bri a pharch i’r busnes a ddaw yn sgil profiad. Mae gweithlu pob oed yn helpu i sicrhau bod busnesau’n dal i ddysgu a rhannu syniadau newydd.”