Western Power Distribution
Mae cwmni dosbarthu’r rhwydwaith trydan Western Power Distribution yn cyflogi tua mil o bobl ledled de, gorllewin a chanolbarth Cymru, ac mae 342 ohonynt yn 50 oed neu drosodd.
“Rydych chi angen pâr o ddwylo diogel wrth weithio gyda 132,000 o foltau,” meddai Phil Davies, rheolwr gwasanaethau’r rhwydwaith yng Nghymru, sy’n ymddeol eleni wedi 54 mlynedd gyda WPD. “Mae swyddi am oes yn brin iawn y dyddiau hyn, ond mae gan y diwydiant hwn hanes da o ddal gafael ar bobl.”
Mae Les Davies yn gweithio yng nghanolfan y cwmni yn Llanfihangel-ar-arth.
Yn dad-cu i ddau a thad i dri, mae’n gweithio bum diwrnod yr wythnos, ac yn dringo polion pren 12 metr o uchder fel rhan o’i waith fel gweithiwr gwifrau uwchben.
“Yn ystod y stormydd diweddar, bues i’n gweithio drwy’r nos tan yr oriau mân, gan ddringo rhwng pob mellten,” meddai Les sydd wedi gweithio yn y diwydiant ers 41 o flynyddoedd, ac yn dad-cu i Louie a Lydia.
“Mae gwyntoedd cryfion yn gallu chwythu coed ar linellau, gan dorri’r cyflenwad trydan i gartrefi, felly fy swydd i yw eu hailgysylltu cyn gynted â phosib.
“Efallai bod rhai’n meddwl bod cael eich harneisio ar ben polyn yng nghanol nos gyda thortsh ar eich pen yn reit frawychus, ond dw i wedi hen arfer.
“Mae fy nghydweithwyr tua deugain mlynedd yn iau na fi, ond maen nhw’n fy nghadw i’n ifanc ac mae’r swydd yn fy nghadw i’n heini. Dy’n ni’n helpu ein gilydd. Mae pobl ifanc yn graff ac yn dysgu’n gyflym, finnau’r un fath.
“Dw i’n defnyddio iPad ar gyfer y gwaith – sy’n gwneud pethau’n haws. Mae’n waith caled ond dw i’n joio, a dw i byth wedi moyn gadael. Dw i wrth fy modd yn gweithio yn yr awyr agored a gwneud swydd bwysig.”
Meddai Phil Davies, ei reolwr: “Mae Les yn uchel ei barch fel dyn polion trydan yn y gorllewin, ac mae ei brofiad a’i wybodaeth hir oes o gymorth i ddatblygu ein prentisiaid a’n crefftwyr llai profiadol, ac yn ddylanwad cadarn a phwyllog mewn sefyllfaoedd anodd.”
Ymunodd Phil, 69 oed a ger Pontypridd, â’r cwmni fel prentis pymtheg oed ac mae wedi gweithio ei ffordd i fyny fel uwch-reolwr.
Ychwanegodd: “Mae gennym bobl ifanc 16 oed yn gweithio yma, ac ar y pen arall, does neb yn cael eu gorfodi i adael pan maen nhw’n drigain oed. Mae gennym ni rywun 71 oed sy’n gyrru lorïau. Mae pawb yn gweithio mewn tîm ac mae digonedd o gymorth ar gael i annog pobl i barhau i weithio.”
Mae staff WPD yn cael cynnig arferion gweithio hyblyg, ac mae’r cwmni sydd â chysylltiad hir ag Age Cymru, yn gwario miliynau o bunnoedd yn hyfforddi ei dimau.
“Rydyn ni’n buddsoddi’r un faint yn ein haelodau staff hŷn ag yn ein recriwtiaid ieuengaf,” ychwanegodd Phil, sy’n dweud bod gan weithwyr hŷn bob math o nodweddion, fel bod y bobl y gellir ymddiried a dibynnu arnynt, ac yn ffynnu yn y diwydiant. Hefyd, maen nhw’n gallu addysgu’r gweithwyr iau sut i drin cwsmeriaid mewn diwydiant sy’n llawn pwysau, meddai.
“Wrth i chi heneiddio mewn cwmni fel ein cwmni ni, rydych chi’n magu aeddfedrwydd wrth ymdrin â phobl. Mae’n gweithwyr hŷn yn gallu cael dylanwad pwyllog, sef yr union beth sydd ei angen dan argyfwng.
“Mae’r dechnoleg yn prysur ddatblygu hefyd, ac rydyn ni’n datblygu apiau ac yn gweithio gyda data clyfar – ac mae angen dysgu’r rhain. Yn wir, rhai o’n staff hynaf sy’n cynnal y cyrsiau hyn gan fod y profiad a’r wybodaeth ganddyn nhw.”
Dywedodd Phil fod WPD yn dal i ddenu pobl o bob oed i weithio mewn diwydiant ‘cyffrous sy’n newid o hyd. “Mae pobl sydd am newid gyrfa yn hwyrach yn eu bywydau yn ymuno â ni – boed yn gyn-filwyr neu rai sy’n gwneud cais ar gyfer ein cynlluniau prentisiaeth.
“Rydyn ni’n annog pobl i ddatblygu ac yn eu hyfforddi i fod yn beirianwyr, rheolwyr neu beth bynnag yr hoffent fod, waeth beth fo’u hoedran.”