Dechrau eich Busnes

Gall lansio busnes newydd fod yn gyffrous iawn, ond mae'n gam dewr i unrhyw un ei gymryd. Felly da yw gwybod bod digon o gymorth ar gael i sicrhau bod sgiliau cadarn yn sail i'ch menter newydd

P'un a ydych yn sefydlu eich busnes cyntaf neu wedi sefydlu busnes o'r blaen, mae cefnogaeth cynghorwyr a mentoriaid profiadol yn amhrisiadwy er mwyn i chi ddechrau'n dda.

Os ydych yn symud o gyflogaeth i entrepreneuriaeth, y tebyg yw y bydd gennych wybodaeth a phrofiad o'ch dewis faes lle rydych am sefydlu eich busnes eisoes.

Drwy ystyried sgiliau yn gynnar iawn yn y broses o gynllunio eich busnes, byddwch mewn gwell sefyllfa i gyflawni eich nodau.

Os ydych yn ystyried dechrau busnes, mae'n werth ichi nodi bod datblygu sgiliau yn rhan annatod o'r broses.

Manteision canolbwyntio ar sgiliau wrth Ddechrau Busnes:

  • byddwch yn dechrau eich busnes ar seiliau cadarn, sicrhau bod gennych y sgiliau i wynebu'r heriau sydd o'ch blaen

  • byddwch yn fwy hyderus a bydd gan eich gweithwyr cyflogedig y lefel gywir o sgiliau angenrheidiol er mwyn i'ch busnes lwyddo
  • rydych yn debygol o fod yn fwy cystadleuol
  • rydych yn debygol o fuddsoddi yn y sgiliau cywir

Pa Ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd?

Mae'r dirwedd cymorth hyfforddiant a chyllid yn eang a gall fod yn anodd eu deall.

Dysgwch pa fath o ddarpariaeth genedlaethol sydd ar gael i'ch busnes

Dechrau busnes a Chynllunio Busnes

Gall dechrau busnes fod yn bywiog ac yn werth chweil, ond gall hefyd fod yn beryglus ac yn heriol. Fodd bynnag, y newyddion da yw y gall cyfraddau llwyddiant ei gynyddu trwy cael mynediad i'r cymorth sydd ar gael. Cliciwch yma i weld yr amrywiaeth o wasanaethau gan Fusnes Cymru.

Dechrau Busnes

Yn barod i recriwtio ?

Pan fo busnes yn penderfynu bod angen cyflogi rhywun, mae'n bwysig defnyddio proses recriwtio gadarn. Fel arall gall cymryd llawer o amser, a chostio llawer o arian, yn enwedig os caiff y person anghywir ei ddewis. Mae proses recriwtio da yn golygu eich bod yn denu'r bobl iawn â’r sgiliau iawn am y gost iawn ac ar yr adeg iawn. I gweld mwy o wybodaeth am hyn, a mwy, cliciwch y botwm isod.

Yn barod i recriwtio

 

Staffio

Mae cyflogi gweithwyr yn gam mawr wrth ddatblygu busnes. Mae'n gyfrifoldeb mawr ac yn weithgaredd arwyddocaol i unrhyw fusnes. Mae'n bwysig bod gweithwyr newydd yn teimlo'n rhan o'r busnes ar unwaith, a'u bod yn fodlon ac yn awyddus i gyfrannu. I weld yr amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael ac i gyrchu ein rhaglenni ar recriwtio a hyfforddi, pwyswch y botwm 'staffio'.

Staffio