Diswyddo

 

Dod o hyd i gymorth pan fyddwch ei angen fwyaf

O ganlyniad i ffactorau a waethygwyd gan bandemig Covid-19, yn anffodus bu’n rhaid i ffatri yn ne Cymru gau a chollodd dros 200 o weithwyr eu swyddi. 

Nid oeddent yn gwybod pa ffynonellau o gymorth oedd ar gael, ond daeth y busnes ar draws Acas. Ar ôl dod i gysylltiad, addysgwyd y rheolwyr yn sydyn am gyfrifoldebau cyfreithiol y cwmni yn ogystal â’r arferion da sy’n mynd law yn llaw â hynny.

Gyda chymorth gan arbenigwyr Acas, cynhaliwyd sesiynau ar-lein i reolwyr a chynrychiolwyr gweithwyr i egluro’r broses dileu swyddi, y camau cyfreithiol a’r heriau fyddai pob cydweithiwr yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod.

Gyda llesiant gweithwyr ar flaen y meddwl, rhoddwyd cymorth i’r busnes ar faterion fel yr effaith ar forâl, ymgysylltu â gweithwyr, cynhyrchiant, a pherthnasau gwaith parhaus. Yn allweddol hefyd, mae’r busnes wedi derbyn canllawiau ar sicrhau bod cymorth ar gael i weithwyr er mwyn caffael sgiliau newydd a chyfleoedd swyddi yn y dyfodol.

Dywedodd Gareth Petty, Cyfarwyddwr Acas Cymru:

 “Mae’r coronafeirws wedi creu llawer o heriau i gyflogwyr a gweithwyr cyflogedig ledled y wlad. Mae ein tîm yng Nghymru wedi bod yn gweithio drwy gydol y pandemig i gefnogi busnesau lleol. Rydyn ni wedi bod yn darparu cyngor ar gyfraith cyflogaeth, yn helpu i ddatrys amrywiol broblemau rheoli ac yn cefnogi gweithwyr sy’n wynebu colli eu swyddi ac ailstrwythuro. Ar yr un pryd, rydyn ni hefyd wedi bod yn hyfforddi cannoedd o reolwyr a pherchnogion busnes ar lwyfannau digidol ar-lein.

Does dim un sefydliad eisiau gweld pobl yn colli eu swyddi, ond gyda chymorth sefydliadau arbenigol gallwch wneud yr hyn sy’n iawn i’ch gweithwyr drwy ymgysylltu â chydweithwyr ac undebau llafur.