Elite Paper Solutions

 

Cyflogodd Elite Paper Solutions Josh O'Leary 21 oed o Dredegar, fel prentis yn 2017.


Mae anabledd dysgu Josh yn golygu ei fod yn ei chael hi'n anodd deall gwybodaeth gymhleth ac yn cael trafferth cyfathrebu.


Meddai Ian Thomas, Rheolwr Menter yn Elite Paper Solutions: “Mae Josh wedi dod yn berson hollol wahanol ers iddo ddechrau gyda ni yn 2017. Mae ei hyder wedi gwella'n ddirfawr, ac mae'n aelod dibynadwy a hanfodol iawn o'r staff yn nhîm y warws. Fel busnes, rydym yn canfod mai'r cyfleoedd gwaith gwerthfawr rydym yn eu cynnig drwy brentisiaethau yw'r ffordd fwyaf cost-effeithiol o roi cyfle i weithwyr o bob gallu ffynnu yn y gweithle, wrth iddynt ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar ein busnes i ddarparu'r gwasanaethau o ansawdd uchel a ddisgwylir gan ein cwsmeriaid.


Ers dod yn brentis Gwaith Warws, mae Josh wedi dysgu amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys rheoli prosiectau, gweithio mewn tîm a sut i gyfathrebu'n effeithiol â'i gymheiriaid. Ar ôl cwblhau ei gymhwyster Lefel 2, mae Josh bellach yn gweithio tuag at Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gwaith Warws.


Mae dysgu oddi wrth yr aelodau o staff mwy profiadol wedi bod o gymorth mawr i ddatblygiad Josh ac mae gweithio'n agos gyda nhw wedi gwneud iddo deimlo fel rhan o deulu. Nid yw anghenion dysgu ychwanegol Josh wedi bod yn broblem ar y safle, ac rydyn ni'n gobeithio gweithio'n agos gydag ef i ddatblygu i swydd oruchwylio.