Hysbysiad Preifatrwydd - Ffurflen Datgan Diddordeb y Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Hysbysiad Preifatrwydd - Ffurflen Datgan Diddordeb y Rhaglen Sgiliau Hyblyg 

Cafodd yr hysbysiad hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 08 Tachwedd 2019.

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Lywodraeth Cymru.  Yn unol â'n tasg gyhoeddus a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GOPR), rydym wedi datblygu Hysbysiad Preifatrwydd sy'n ymdrin â pham yr ydym yn casglu ac yn defnyddio'ch gwybodaeth. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau y caiff eich data personol eu prosesu'n deg ac yn gyfreithlon ac mewn ffordd dryloyw.

1.     Byddwch cystal â chymryd eiliad i ymgynefino â'n harferion preifatrwydd. 

Pam yr ydym yn casglu a phrosesu data

Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol a ddarperir gennych ar Ffurflen Datgan Diddordeb y Rhaglen Sgiliau Hyblyg. Yn unol â'n tasg gyhoeddus, caiff y data eu defnyddio i'ch adnabod chi a darparu'r cymorth mwyaf priodol i chi gan ein timau gwasanaeth.

2.     Pwy gaiff fynediad i'ch data

Efallai y bydd y data'n cael eu rhannu â Diwydiant Cymru fel noddwyr prosiect a chyd-weinyddwyr y canlynol:

  • Rhaglen Sgiliau Hyblyg: Sgiliau Digidol Uwch; 
  • Rhaglen Sgiliau Hyblyg: y sector modurol a'i gynigion o ran partneriaethau cadwyn gyflenwi; 
  • Rhaglen Sgiliau Hyblyg: datblygu sgiliau'r gweithlu ar gyfer y sectorau Awyrofod, Hedfanaeth a'r Gofod

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar gael i dimau gwasanaethau cymorth Llywodraeth Cymru a'r gweinyddwyr technegol sy'n cefnogi'r system TG. Ni fydd y gweinyddwyr technegol yn defnyddio'ch manylion mewn unrhyw ffordd.

3.     Pa mor hir y cedwir eich manylion
Bydd eich manylion yn cael eu cadw yn ein systemau am hyd at 12 mis at ddibenion gwerthuso'r rhaglen.

4.     Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:

  • i gael gweld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch;
  • i’w gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hynny;
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn rhai amgylchiadau);
  • i ofyn i ni 'ddileu' eich data (mewn rhai amgylchiadau);
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Ebost: casework@ico.org.uk
Gwefan: https://ico.org.uk

I gael help gydag unrhyw un o'r hawliau uchod, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen 'cysylltu â ni' yn https://businesswales.gov.wales/contact-us.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

5.      Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'ch gwybodaeth chi 

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i’r cyhoedd gael gweld gwybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gallai aelod arall o'r cyhoedd ofyn am gael gweld yr wybodaeth a roddwch inni, a hynny fel rhan o gais rhyddid gwybodaeth. Byddem yn cysylltu â chi i ofyn am eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.

6.      Newidiadau i'r polisi hwn 

Gallai Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Caiff newidiadau eu postio yma a byddant yn dod i rym ar unwaith. Pan fydd newidiadau i'r polisi hwn byddwn yn cysylltu â chi yn y cyfeiriad e-bost yr ydym wedi'i gofnodi yn eich cyfrif i'ch galluogi i adolygu'r fersiwn newydd.
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth 

Cyfeiriad post:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10  3NQ
Cyfeiriad e-bost: Data.ProtectionOfficer@wales.gsi.gov.uk