Hysbysiad Preifatrwydd Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb mewn Prentisiaethau

Mae’ch preifatrwydd yn bwysig i Fusnes Cymru ac yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol rydym wedi llunio Hysbysiad Preifatrwydd sy'n nodi pam rydym yn casglu a defnyddio’ch gwybodaeth bersonol chi . Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau bod eich data personol yn cael eu prosesu'n deg ac yn gyfreithlon ac mewn ffordd dryloyw.

1.    Byddwch cystal â chymryd eiliad i ddarllen drwy ein harferion preifatrwydd. Pam ein bod yn casglu a phrosesu'r data a gesglir

Llywodraeth Cymru fydd y Rheolydd Data ar gyfer y data personol a ddarparwch ar Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb mewn Prentisiaethau Porth Sgiliau Busnes Cymru. Yn unol â'n gorchwyl cyhoeddus bydd y data'n cael eu defnyddio i'ch adnabod ac i ddarparu'r cymorth mwyaf priodol ichi gan ein partneriaid cyflawni fel Tîm Sgiliau Busnes Cymru a’n rhwydwaith o ddarparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith sydd dan gontract.

2.    Pwy fydd yn cael gweld eich data:

  • Mae'r data hyn yn cael eu rhannu â sefydliadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u contractio'n unswydd i gyflwyno Dysgu Seiliedig ar Waith Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig â chynnwys Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb mewn Prentisiaethau Porth Sgiliau Busnes Cymru.
  • Bydd y wybodaeth a gesglir yn hygyrch gan Golley Slaters, Cymru’n Gweithio, Cyngres yr Undebau Llafur, Colegau Cymru, Tîm Sgiliau Busnes Cymru, timau gwasanaeth cymorth Llywodraeth Cymru a'i gweinyddwyr technegol system sy'n cefnogi'r I.T. system. Ni fydd gweinyddwyr technegol system yn defnyddio'ch manylion mewn unrhyw ffordd.

3.    Am ba hyd y cedwir eich manylion:


Caiff eich manylion eu cadw ar ein systemau yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru am hyd at 6 flynedd fel rhan o'n hyfforddiant a'n hadolygiadau ansawdd parhaus.


4.    Eich hawliau.


O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • gweld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hynny
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data (dan rai amgylchiadau)
  • gofyn i'ch data gael eu dileu (dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer / Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

E-bost: casework@ico.org.uk
Gwefan: https://ico.org.uk

Os hoffech unrhyw gymorth i fanteisio ar  yr hawliau uchod, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru drwy ffonio 03000 6 03000 neu drwy ddefnyddio'r ffurflen Cysylltu â ni https://businesswales.gov.wales/cy/cysylltwch-a-ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.


5.    Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'ch Gwybodaeth Chi


Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn galluogi'r cyhoedd i ofyn i gael gweld yr wybodaeth sydd gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gallai aelod arall o'r cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth amdanoch chi fel rhan o gais rhyddid gwybodaeth. Byddem yn cysylltu â chi i wybod eich barn ynglŷn â hyn cyn datgelu unrhyw ddata personol wrth ymateb i gais o'r fath.


6.    Newidiadau i'r polisi hwn


Caiff Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i'r polisi hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau yn cael eu cyhoeddi yma a dônt yn weithredol ar unwaith. Pan fo newidiadau yn cael eu gwneud i'r polisi hwn, byddwn yn cysylltu â chi drwy'r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar eich cyfer yn eich cyfrif i roi cyfle ichi ddarllen y fersiwn newydd.
I gael rhagor o fanylion am eich hawliau ynghylch eich data:

Cyfeiriad:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10  3NQ
Cyfeiriad e-bost:   Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru