Hysbysiad Preifatrwydd: Ffurflen Mynegi Diddordeb yn AilGychwyn

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Lywodraeth Cymru. Yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) rydym wedi datblygu Hysbysiad Preifatrwydd sy'n nodi pam rydym yn casglu ac yn defnyddio'ch gwybodaeth. Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn sicrhau y bydd eich data personol yn cael ei brosesu'n deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw.

Pam rydym yn casglu ac yn prosesu'r data a gesglir

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych ar y ffurflen mynegi diddordeb yn AilGychwyn. Bydd hyn yn cael ei wneud yn unol â'n tasg gyhoeddus. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data i gysylltu â'ch sefydliad i gael trafodaethau pellach.

Pwy arall all gael mynediad at eich data?

Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda thrydydd partïon, megis ein partneriaid yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol yng Nghymru a Phartneriaeth Mudo Strategol Cymru. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth bersonol gyda cholegau sy'n cyflwyno cyrsiau ESOL i fudwyr yng Nghymru a sefydliadau elusennol fel Cyngor Ffoaduriaid Cymru, EYST, Oasis, a The Gap a fydd yn darparu gwasanaethau cyflogadwyedd i fudwyr yng Nghymru. Bydd hyn yn eu galluogi i roi gwybod i ffoaduriaid bod eich cwmni neu'ch busnes yn ceisio recriwtio ffoaduriaid.

PMae data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael eu storio ar weinyddion diogel. Dim ond drwy ddefnyddio systemau trosglwyddo diogel achrededig y bydd data personol, adnabyddadwy a rennir gyda'n partneriaid yn cael ei drosglwyddo

Am ba hyd y bydd eich manylion yn cael eu cadw?

Bydd eich manylion yn cael eu cadw ar ein systemau yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru am hyd at 6 blynedd fel rhan o'n hadolygiadau hyfforddiant ac ansawdd parhaus.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i’r canlynol:

  • i gael mynediad at y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch chi;
  • ei gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 725 neu 0303 123 1113

Gallwch gysylltu â Llywodraeth Cymru os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y defnydd o'ch data personol drwy e-bostio Refugees@llyw.cymru

Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'ch Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i'r cyhoedd gael gweld gwybodaeth a gedwir gan lawer o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gall aelod arall o'r cyhoedd wneud cais rhyddid gwybodaeth er mwyn gweld yr wybodaeth yr ydych yn ei darparu. Byddem yn ymgynghori â chi i ofyn am eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.

Newidiadau i'r polisi hwn

TGall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau'n cael eu cyhoeddi yma ac yn dod i rym ar unwaith. Pan fydd newidiadau'n digwydd i'r polisi hwn byddwn yn cysylltu â chi ar y cyfeiriad e-bost rydym wedi'i gofnodi ar eich cyfer i'ch galluogi i edrych ar y fersiwn newydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd Llywodraeth Cymru'n defnyddio y data a ddarparwyd, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Welsh Government
Cathays Park
Cardiff
CF10 3NQ

Email: DataProtectionOfficer@gov.wales