Dŵr Cymru Welsh Water

Mae rhoi sicrwydd i’r busnes i’r dyfodol, mynd i’r afael â dilyniant a sicrhau’r hyfforddiant gorau posibl i’r gweithlu yn rhesymau pam y mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi ymrwymo i raglen ddoniau neilltuol.

Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i ddatblygu gyrfaoedd, yn cynnig buddsoddiad parhaus yn cydnabod y bobl sy’n ategu popeth y mae’r cwmni’n ei wneud. Gan weithio gyda darparwyr hyfforddiant ledled Cymru, mae Dŵr Cymru Welsh Water yn darparu rhaglen wedi ei strwythuro gyda hyfforddiant rôl a chynnyrch penodol.

Mae gan bob prentis a hyfforddai fydi neilltuol ar y safle, yn ogystal â diwrnodau datblygu bob chwe mis i ganolbwyntio ar effeithiolrwydd personol a hyfforddiant sgiliau meddal. Mae’r ymagwedd hon yn sicrhau bod y prentisiaid a’r hyfforddeion yn cael y wybodaeth a’r sgiliau cywir i fod yn weithredol yn y gweithle.

O ganlyniad i’r rhaglen, mae gan y cwmni gyfradd o 100 y cant o ran prentisiaid a hyfforddeion sydd yn cwblhau eu hyfforddiant ac yn symud i swydd barhaol.