Sue Jeffries: Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith
Ar ôl dros 30 mlynedd o brofiad ym maes cynhyrchu rhaglenni teledu, cychwynnodd Sue Jeffries ei chwmni hyfforddi ei hunan yn arbenigo mewn prentisiaethau ar gyfer swyddi'n amrywio o ddylunio gwisgoedd i effeithiau arbennig.
A hithau’n rheolwr gyfarwyddwr Sgil Cymru, sy’n rhan o’r diwydiant yn Stiwdios Pinewood yn Rhymni, mae Sue’n brif asesydd ar gyfer tair prentisiaeth yn y cyfryngau ar lefelau 3 a 4.
Mae gan Sue lu mawr o gysylltiadau ac mae’n defnyddio arbenigwyr yn y diwydiant fel aseswyr llawrydd i gynnig hyfforddiant hyblyg sy’n ateb gofynion y BBC, ITV a chwmnïau annibynnol o ran cynhyrchu rhaglenni teledu.
Yn hytrach na mynd i’r coleg am ddiwrnod yr wythnos, mae’r prentisiaid yn dilyn blociau dysgu yn y stiwdios, wedi’u trefnu o gwmpas amserlenni cynhyrchu, ac mae hyn yn dod yn ffordd gyffredin iawn o gael mynediad i’r diwydiannau creadigol.
Mae Sue yn asesu yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae’r prentisiaethau, trwy BBC Cymru, wedi ehangu i fyd radio, chwaraeon a dewis amlblatfform. Mae ei dull o ddefnyddio gweithdy recriwtio i ganfod darpar brentisiaid wedi’i gydnabod gan Creative Skillset fel enghraifft o ymarfer gorau ac mae Sue yn siarad mewn cynadleddau a digwyddiadau er mwyn recriwtio’r genhedlaeth nesaf o weithwyr yn y cyfryngau.