Harding Evans
Does gan weithwyr cwmni cyfreithiol yng Nghasnewydd ddim “Dyddiad ar eu Gorau Cyn”
Mae gan Harding-Evans ymrwymiad tymor hir i’w staff ac mae’n credu bod gweithlu o bob oedran yn allweddol i helpu busnes i ffynnu yn y tymor hir. Mae’n defnyddio aelodau staff profiadol i hyfforddi aelodau iau yn ffyrdd y busnes, ei ethos a’i arferion mewn ymgais i ddiogelu’r busnes ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf o reolwyr ac arweinwyr y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw.
Flwyddyn yn ôl, lansiodd Harding Evans ei raglen ‘Pathway 2 Partnership’ fel rhan o strategaeth ehangach y cwmni i nodi a datblygu talent yn fewnol, a’i nod yw meithrin a datblygu perchnogion a phartneriaid y dyfodol.
Nod y rhaglen yw ehangu sylfaen sgiliau gweithwyr cyflogedig y tu hwnt i wybodaeth gyfreithiol i gynnwys sgiliau rheoli lefel uchel, gan ganolbwyntio ar fentora, hyfforddiant a datblygiad personol. Mae’n gyfle hefyd i wneud cyfraniad allweddol at gyflawni nodau strategol y cwmni.
Meddai Joy Phillips, Cyfarwyddwr Ymarfer, sydd hefyd yn fentor i’r rhaglen: “Mae’r rhaglen ‘Pathway 2 Partnership’ yn adlewyrchu ein cred bod gan ein staff y sgiliau a’r potensial i fod yn Bartneriaid y dyfodol. Gyda hynny mewn golwg, maen nhw bellach yn dilyn llwybr datblygiad personol llawn her a fydd yn datblygu’r sgiliau strategol, ariannol a rheoli pobl ehangach sydd eu hangen ar bartneriaid Harding Evans, o dan gyfarwyddyd uwch aelod o’r practis.
“Mae’r math hwn o raglen ddatblygu yn rhywbeth y byddech chi’n disgwyl ei gweld mewn practis mwy o faint, ond roedden ni’n awyddus i fynd i’r afael â’r materion yn ymwneud â datblygu a chadw talent. Rydyn ni’n rhoi cyfle i’n cyfreithwyr dawnus gamu ymlaen i lefel Aelod Cyswllt, Uwch Aelod Cyswllt neu Bartner; cyfleoedd efallai na fyddai ar gael iddyn nhw mewn cwmnïau mwy o faint.”
Mae Joy, sy’n 57 oed, yn fentor i’r Uwch Aelod Cyswllt Siobhan Downes, cyfreithiwr teulu sy’n arbenigo mewn gofal plant. Ymunodd Siobhan, sy’n 32 oed, â Harding Evans 11 mlynedd yn ôl, ac fe gymhwysodd hi fel cyfreithiwr saith mlynedd yn ôl.
Ychwanegodd Joy: “Mae bod yn fentor yn gweithio’r ddwy ffordd. Yn ogystal â chefnogi a helpu pobl ifanc sy’n dod drwy’r busnes, rwy’n dysgu llawer ganddyn nhw hefyd. Dydy fy nghydweithwyr iau ddim ofn fy herio i ac, o ganlyniad, rwy’n dysgu pethau ganddyn nhw, sy’n gwneud y gweithle’n lle mwy amrywiol.
“Mae pobl ifanc a hŷn eisiau datblygu ac, os na fyddwch chi’n rhoi cyfle iddyn nhw wneud hynny, byddwch chi’n eu colli nhw. Rydyn ni’n credu bod gweithlu o bob oedran yn helpu’r unigolion ac y bydd yn mynd i’r afael ag unrhyw brinder sgiliau yn y dyfodol, a bydd yn gwneud gwahaniaeth i’r busnes yn y tymor hir trwy sicrhau perchnogion y dyfodol.”