Er mwyn roi rhai syniadau i chi ar sut i fanteisio ar hyn, rydyn ni wedi dewis pedwar cwmni yng Nghymru sy’n perfformio’n dda ac wedi amlinellu rhai o’r arferion wrth wraidd eu llwyddiant.

Cafodd Admiral, sy’n cael ei yrru gan ymrwymiad cadarn i ddatblygiad staff, ei sefydlu yng Nghaerdydd ym 1993 – a daeth yn un o straeon llwyddiant mwyaf y byd yswiriant.

Yn ganolog i’r llwyddiant hwn roedd Academi Admiral. Mae’r academi’n cynnwys dros 20 o weithwyr proffesiynol dysgu a datblygu, a’i nod yw helpu pawb yn y cwmni i gyflawni eu llawn botensial. Mae hyn yn cynnwys rhoi’r cyfle i unigolion astudio ar gyfer cymwysterau yn ystod oriau gwaith, mynd ati’n ddyfal i annog unigolion i fynychu cyrsiau hyfforddi, a chyllido cost y llyfrau, elyfrau a DVDs angenrheidiol i staff sydd am wella eu gwybodaeth a’u sgiliau.

Erbyn heddiw, mae Admiral yn cyflogi dros 8,000 o staff ym mhedwar ban byd ond yng Nghaerdydd y mae ei bencadlys o hyd, ac mae’r Academi yn parhau i ddarparu cymysgedd rymus o gymorth, arweiniad a chyfleoedd. 
Yn ystod 2016, mynychodd 5,825 o weithwyr gyrsiau a gweithdai a bellach mae 200 o gyrsiau ar gael ar-lein i staff. Ac mae’r ddau ffigur hyn yn mynd i godi eto wrth i’r cwmni ehangu ac wrth i’r genhedlaeth nesaf o recriwtiaid gael eu hannog i dyfu’n arweinwyr y dyfodol.

“Mae hi mor bwysig i ni fod y bobl dalentog niferus sydd yn ein cwmni yn derbyn pob cyfle i serennu a chyflawni eu llawn botensial.”
Neil Evans, Hyfforddwr Academi Admiral, Admiral


Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen