Jewson

Mae cangen un o brif gyflenwyr deunyddiau adeiladu'r DU yng Nghasnewydd yn annog cyflogwyr eraill i ystyried defnyddio'r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd ar ôl gweld mai hwn yw'r ateb delfrydol i'w anghenion recriwtio fel busnes.

Mae Jewson, sydd â bron i 600 o ganghennau ledled y DU wedi manteisio ar y rhaglen i lenwi bwlch sylweddol mewn sgiliau yn ei weithlu.

Dywedodd Marc Horton, rheolwr cangen Jewson yng Nghasnewydd: “Roedden ni’n mynd drwy gyfnod lle roedd llawer o bobl i ffwrdd o'r gwaith am gyfnodau hir ac roedd angen i ni ddod o hyd i weithwyr i reoli'r llwyth gwaith adeiladu. Fe ddaethon ni ar draws y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd wrth ymchwilio i wahanol bosibiliadau ac roedd yn ymddangos mai hwn oedd yr ateb perffaith i ddiwallu’r prinder sgiliau.

“I ddechrau, dim ond eisiau dod o hyd i staff dros dro i’n helpu ni i reoli’r llwyth gwaith oedden ni, ond rydyn ni wedi gweld bod y rhaglen hon yn ffordd ddelfrydol o ddod o hyd i bobl frwdfrydig a gweithgar sy’n awyddus i ddysgu a datblygu. 

“Rydyn ni wedi gallu hyfforddi’r unigolion ar leoliad er mwyn datblygu’r sgiliau sy’n berthnasol i’n busnes, sy’n golygu bod ganddyn nhw brofiad ymarferol o'r diwydiant a’u bod yn deall sut mae ein busnes yn gweithio o ddydd i ddydd.  Rydyn ni hefyd wedi gallu eu symud nhw o gwmpas y busnes i ddiwallu ein hanghenion ac i weld lle fyddai’n fwyaf addas iddyn nhw a sut gallwn ni fanteisio i'r eithaf ar eu sgiliau a’u doniau fel unigolion. 

“Mae hyn wedi rhoi cyfle i ni lenwi'r bwlch mewn sgiliau oedd gennym ni, yn ogystal â’n helpu ni i sicrhau bod ein busnes yn parhau i ffynnu mewn cyfnod anodd. 

“Yn ogystal â helpu ein busnes, mae’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd yn rhoi cyfle i ni helpu pobl sy’n ei chael yn anodd dod o hyd i waith drwy eu helpu nhw i gamu ar yr ysgol yrfa eto a rhoi cyfle iddyn nhw gael profiad gwaith perthnasol.”

Mae’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd wedi’i dylunio i roi hyder a phrofiad i unigolion fynd ati i gael swyddi drwy leoliadau profiad gwaith o ansawdd uchel sy’n darparu dysgu seiliedig ar waith, gweithdai hyfforddi sgiliau a chyflogadwyedd, uwchsgilio mewn sgiliau hanfodol a staff cynorthwyol ymroddgar.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cliciwch yma.