CANLLAW CAM WRTH GAM AT GYNEFINO
- Cam 1 - Cyn i'r cyflogai ddechrau:
Anfonwch wybodaeth ddefnyddiol am eich sefydliad at y cyflogai. Penderfynwch pwy fydd yn cwrdd â'r cyflogai ar Ddiwrnod 1 a pharatowch le gwaith, cyfrineiriau, cerdyn cofnodi oriau ac ati. Ystyriwch benodi mentor neu gyfaill. - Cam 2 - Diwrnod cyntaf:
Peidiwch â gorlwytho'r diwrnod cyntaf gyda gormod o wybodaeth. Ewch am daith o'r swyddfeydd / lleoliadau a'i gyflwyno i reolwyr a chydweithwyr allweddol. Trafodwch ofynion iechyd a diogelwch. - Cam 3 - Wythnos gyntaf:
Darparwch wybodaeth fanwl am y sefydliad, sut mae'n gweithio, gwerthoedd, cyfleusterau.
Eglurwch brosesau rheoli perfformiad a gofynion hyfforddiant cychwynnol. - Cam 4 - Mis cyntaf:
Gwiriwch yn rheolaidd bod y cyflogai yn ymgartrefu ac a oes angen hyfforddiant neu coetsio pellach. Rhowch adborth ar ei berfformiad hyd yma. - Cam 5 - Tair mis:
Gwiriwch berfformiad y cyflogai - llwyddiannau a meysydd i'w gwella. Cytunwch ar unrhyw anghenion cefnogi / hyfforddiant ychwanegol ac ati. - Cam 6 - Chwe mis:
Penderfynwch a yw'r cyflogai wedi cwblhau ei gyfnod prawf yn llwyddiannus neu'r camau nesaf. Rhannwch yr asesiad o'r cyfnod prawf a chytuno ar y nodau ar gyfer y 6 mis nesaf.
CANLLAW CAM WRTH GAM AT GYNEFINO
[.PDF, 124.13 KB]