Banc Datblygu Cymru

 

Mae gan Fanc Datblygu Cymru agwedd hollgynhwysol tuag at dimau ar draws y busnes, gan annog amgylchedd amrywiol. Mae hyn yn cynnwys cyflogi pobl o bob oed i hwyluso rhannu gwybodaeth a sgiliau ar draws timau, gyda chydweithwyr iau yn cyflwyno agwedd newydd at brosesau a thechnoleg tra bod cydweithwyr hirsefydlog yn cynnig gwybodaeth, profiad ac arbenigedd.

Ymunodd Simon Thelwall-Jones, 51, â Banc Datblygu Cymru’r llynedd fel Cyfarwyddwr Mentrau Technolegol. Mae’n gweithio yn Wrecsam a ganddo ef mae’r dasg o ddatblygu portffolio buddsoddiad busnes y Banc Datblygu a chwilio am fusnesau newydd i gefnogi eu twf a’u datblygiad.

“Fel rwy’n gweld pethau, rhannu gwybodaeth yw’r cam yma o fy ngyrfa,” meddai Simon.

“Fe gefais fy mhenodi nid yn unig ar sail y profiad oedd gen i i’w gynnig ond hefyd oherwydd yr awydd i greu tîm aml-genhedlaeth a fyddai’n gallu rhannu gwybodaeth a sgiliau.

“Rwy’n daer eisiau i fy nghydweithwyr ar y tîm yma, yn enwedig y rhai ifanc, i gael budd o’r hyn rydw i wedi’i ddysgu fel eu bod yn gallu datblygu, ac os caf i siarad heb flewyn ar fy nhafod, y gobaith yw eu bod nhw’n mynd ymlaen i fod yn well nag y bûm i.”

Er nad yw Simon yn gweld oedran fel rhwystr i weithio, mae’n cydnabod nad yw pobl dros 50 oed bob tro’n sylweddoli beth sydd ganddynt i’w gynnig.

“Mae cymaint o bobl yn y gweithle, yn enwedig pobl dros 50 oed, sydd yn meddu ar gyfoeth o brofiad o ddelio â heriau, arwain timau a lansio mentrau, ond sydd ar yr un pryd ddim yn sylweddoli pa mor werthfawr yw sgiliau o’r fath.

“Yn y Banc Datblygu, rydyn ni’n hoffi rhannu gwybodaeth, profiad a sgiliau i helpu i hyfforddi a datblygu ein cydweithwyr i gyd. Gall graddedigion a chydweithwyr iau ddysgu oddi wrth brofiad gwerthfawr cydweithwyr hirsefydlog.”