AilGychwyn

ReStart Banner

Mudwyr a Chyflogaeth

Mae Cymru wedi ymrwymo i fod yn Genedl Noddfa, un genedl sy'n croesawu pobl sy'n ffoi rhag erledigaeth i fyw, gweithio a ffynnu yn ein cymunedau ledled Cymru.

Er bod y cyfraddau cyflogaeth ar gyfer ffoaduriaid yn is nag ar gyfer nifer o gymunedau eraill yn y DU, nid ydym yn annog busnesau i gyflogi ffoaduriaid ar sail tosturi neu garedigrwydd.

Mae mudwyr sy'n cyrraedd Cymru, gan ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth, yn meddu ar dalent sy'n cael ei thanddefnyddio ym marchnad lafur Cymru. Gall eich cwmni lenwi swyddi gwag a bylchau sgiliau, sicrhau mwy o amrywiaeth yn eich gweithlu a dod yn fwy cynhwysol fel sefydliad, gan gefnogi pobl sydd wedi ffoi o'u gwledydd i ddechrau bywyd newydd yng Nghymru ar yr un pryd.

Mae gan fudwyr ystod amrywiol o sgiliau a phrofiad ac maent yn awyddus i ddod o hyd i waith. Gall eich cwmni ddangos arfer da o ran blaengaredd drwy fuddsoddi yn yr ymgeiswyr gweithgar hyn tra'n dangos cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

Bydd cyflogi mudwyr nid yn unig yn annog ac yn grymuso cyflogwyr eraill i ddilyn eich arweiniad, ond hefyd yn caniatáu i'ch busnes ffynnu a llwyddo. Gallwn ddarparu hyfforddiant, adnoddau a chymorth i Fusnesau sy'n rhannu gwerthoedd Llywodraeth Cymru o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant fel Cenedl Noddfa.

Mae gan fudwyr yr hawl i weithio yn y DU heb unrhyw gyfyngiadau ac mae ganddynt nifer o sgiliau a rhinweddau nad ydynt yn cael eu defnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydym am gynnig y cyfle cyffrous i chi lenwi swyddi gwag yn eich sefydliad.

Beth yw'r manteision i chi?

  • Dengys ymchwil gan Mckinsey (2019) fod cwmnïau lle ceir amrywiaeth ddiwylliannol 36% yn fwy tebygol o berfformio'n well yn ariannol na'u cystadleuwyr, a gall gynyddu cryfder a phresenoldeb eich cwmni yn y farchnad ryngwladol.
  • Mae cyfle i fusnesau rannu ethos eu cwmni gydag ymgeiswyr cyn iddynt wneud cais.
  • Gall yr ymgeiswyr gynnig ystod o sgiliau a phrofiadau addysgol a gwaith er mwyn helpu i ddatblygu’ch busnes.
  • Mae'r unigolion hyn wedi profi adfyd yn eu gwledydd cartref ac wedi gorfod gadael eu cartrefi a mynd ar daith anodd i ddechrau bywyd newydd yn DU, ac mae hyn yn dangos eu cryfder a'u dyfeisgarwch a pha mor benderfynol ydynt. Gallant ddod â'r rhinweddau hyn i'r gweithle.
  • Gall ein cleientiaid roi cyfle i fusnesau ddatblygu'r gweithwyr sydd ganddynt eisoes drwy roi cyfle iddynt hyfforddi, cefnogi a mentora dechreuwyr newydd.
  • Mae buddsoddi yn y cyflogeion hyn yn fanteisiol gan fod y gyfradd gadw ymhlith ffoaduriaid 75% yn uwch na staff eraill (Fiscal 2015).

Beth all ein Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr ei gynnig i fusnesau?

Gall Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr Llywodraeth Cymru weithio gyda busnesau o unrhyw fath a maint sydd naill ai wedi recriwtio mudwyr eisoes neu sy'n ystyried gwneud hynny ond yn poeni am y broses.

Mae'r cymorth yn cynnwys:

  • Sesiynau hyfforddi i roi gwybodaeth bellach ynghylch cyflogi mudwyr.
  • Ateb unrhyw gwestiynau sydd gan fusnesau a thynnu sylw at fanteision posibl recriwtio mudwyr.
  • Galluogi busnesau i ehangu eu prosesau recriwtio drwy gysylltu cyflogwyr â sefydliadau sy'n helpu mudwyr er mwyn dod o hyd i ymgeiswyr.
  • Gellir rhoi canllawiau i fusnesau i greu cynlluniau lleoli â thâl i osgoi prosesau recriwtio arferol er mwyn sicrhau chwarae teg i geiswyr noddfa. Darllenwch fwy am lwyddiant Rhaglen UPPNA IKEA
  • Cynghori cyflogwyr am gynlluniau cyflogadwyedd eraill Llywodraeth Cymru y gellir eu defnyddio wrth recriwtio mudwyr.
  • Gall Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr Llywodraeth Cymru gwrdd â busnesau am ddiweddariadau anffurfiol ar ddiwedd y broses recriwtio.
  • Yn ogystal, mae cyfle i fusnesau fynychu digwyddiadau ymgysylltu i ddysgu mwy am brofiadau busnesau eraill o recriwtio mudwyr.
  • Ymunwch â man diogel ar-lein i ddysgu wrth y cyflogwyr eraill sy'n cymryd rhan yn y prosiect ac i rannu gwybodaeth.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech ddysgu mwy am sut y gallwn eich helpu chi i recriwtio ymgeiswyr rhagorol i dyfu eich busnes, gallwch fynegi diddordeb drwy’r Ffurflen Mynegi Diddordeb

Gallwch gysylltu â'r Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr drwy anfon e-bost at ffoaduriaid@llyw.cymru

Cynhaliwyd gwaith ymchwil i nodi bylchau yn y farchnad lafur ar gyfer Ffoaduriaid yng Nghymru. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yma.

Cynhaliwyd y prosiect AilGychwyn gan Lywodraeth Cymru rhwng 2019 a mis Mawrth 2022 (wedi’i ariannu’n rhannol drwy Awdurdod Cyfrifol y DU). Y bwriad oedd helpu ffoaduriaid i integreiddio yng Nghymru drwy ddarparu cyrsiau ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) achrededig a chymorth cyflogaeth. Cafodd y ffoaduriaid asesiad ieithyddol i weld a oedd angen iddynt fynychu dosbarthiadau ESOL ac i'w rhoi mewn dosbarth yn unol â'u gallu. Cwblhawyd asesiad holistaidd yn edrych ar wahanol ffactorau gan gynnwys eu nodau o ran cyflogaeth, eu profiad blaenorol, eu haddysg a'u hangen am gymorth. Cafwyd cymorth hyfforddwr gwaith yn y canolfannau i ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad a chwilio am swydd. Roedd y 4 canolfan a ddarparodd gymorth yn Wrecsam, Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd. Roedd tri Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr yn cwmpasu'r rhanbarthau hyn ac yn cysylltu ymgeiswyr gobeithiol â chyflogwyr i roi hwb i'w gyrfaoedd a'u bywydau yng Nghymru.

Dulliau ar gyfer gwneud yn fawr o sgiliau ffoaduriaid yn eich gweithle

Straeon llwyddiannau

Gallwch hefyd ddarllen ein dogfennau canllaw