Dyfodol Gwaith 2017-27
Adroddiad cryno Cymru ac amcanestyniadau rhanbarthol
Amcanestyniadau o’r farchnad lafur dros 10 mlynedd yw Dyfodol Gwaith 2017-27 ac fe’u darperir gan y Sefydliad Ymchwil i Gyflogaeth (IER) ym Mhrifysgol Warwick a Cambridge Econometrics. Argraffiad 2017-27 yw seithfed fersiwn yr amcanestyniadau hyn.
Nod yr amcanestyniadau yw darparu amcangyfrif o drywydd tebygol y farchnad lafur dros gyfnod o ddeng mlynedd. Mae’n bwysig nodi y paratowyd yr amcanestyniadau cyn pandemig Covid-19, felly nid ydynt yn darparu tystiolaeth ynghylch effaith economaidd y pandemig na’r cyfnod clo.
Noddwyd y prif amcanestyniadau gan Adran Addysg Llywodraeth y DU. Darparodd IER a Cambridge Econometrics amcanestyniadau ychwanegol ar gyfer rhanbarthau economaidd Cymru ynghyd ag adroddiad cryno o ganfyddiadau Dyfodol Gwaith o ran Cymru. Mae’r adroddiad cryno a’r tablau data cyflawn ar gael isod.
Mae amcanestyniadau ar gyfer rhanbarthau Cymru (y De-ddwyrain, y Gogledd, a’r De-orllewin a’r Canolbarth fel un, ac amcanestyniadau ychwanegol ar gyfer y Canolbarth a’r De-orllewin ar wahân) ar gael ar wefan IER yn yr adran dolenni perthnasol isod.
Er mwyn lawrlwytho‘r llyfrau gwaith rhanbarthol bydd rhaid ichi gael hawl mynediad at y Gofrestr Busnesau ac Arolwg Cyflogaeth drwy system NOMIS. Mae gwefan IER yn esbonio sut i wneud hyn.