20Twenty

Lluniwyd y rhaglen 20Twenty Leading Business Growth i helpu sefydliadau uchelgeisiol yn Nwyrain Cymru i gyflawni twf cynaliadwy a thrawiadol. 

Trwy roi'r sgiliau i reolwyr, arweinwyr a pherchnogion sy'n ofynnol i wella effeithlonrwydd, i gynllunio strategaethau ar gyfer twf ac i weithredu targedau ehangu, mae'r rhaglen 20Twenty wedi bod yn rhyfeddol o lwyddiannus o ran meithrin ehangiad busnesau yn y sectorau anoddaf a mwyaf cystadleuol.

20Twenty

Dyma'r manteision i fusnesau

Mae'r rhaglen 20Twenty yr un mor addas i sefydliadau mawr a busnesau bach. Yn wir, mae cwmniau sydd wedi cyfranogi yn y rhaglen hyd yn hyn wedi gweld tyfiant o oddeutu 30% ar gyfartaledd. Yn fwy syfrdanol efallai yw'r ffaith bod 50 o'r cwmniau hynny wedi son am gynnydd o fwy na 100% yn eu trosiant gwerthu.  Nid yw'n syndod bod y rhaglen 20Twenty wedi denu sylw chwaraewyr blaenllaw.  Mae 10 o'r "300 busnes gorau" yng Nghymru wedi bod ar y rhaglen yn barod.  Dyma eich tro chi yn awr i rannu yn llwyddiant y rhaglen 20Twenty.

Pa gymorth sydd ar gael i chi?

Mae'r rhaglen 20Twenty yn cynnig ystod o gymwysterau cydnabyddedig mewn arweinyddiaeth o Lefel 3 hyd at Lefel 7, y maent oll wedi'u hachredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig.  Dyma'r unig rhaglen yng Nghymru sy'n cynnig llwybr dilyniant o CMI lefel 3 i lefel 5, yn arwain tuag at dystysgrif ôl-raddedig, MBA gweithredol a rheolwr siartredig. Mae hon yn rhaglen o safon uchel a redir gan arbenigwyr sy'n gwerthfawrogi'r pwysau ar amser a'r baich ar gyllideb y mae'n rhaid i bob busnes - yn fawr a bach - ymdrin a nhw. 

Dyma eich ymrwymiad chi

Mae cyfranogwyr y rhaglen 20Twenty yn mynd i gyfres o weithdai (hyd at 15 diwrnod i gyd) dros gyfnod o 10 mis.  Yn ystod y cyfnod hwnnw, maent yn astudio amrywiaeth o dechnegau a phrosesau i'w helpu i ddatblygu eu busnesau mewn nifer o feysydd allweddol, yn gynnwys sgiliau arwain, hyfforddi, gwerthu, marchnata, cyllid, effeithiolrwydd gweithredol ac arloesi busnes.

A yw eich busnes chi'n gymwys?

Mae busnesau o bob maint, gan gynnwys sefydliadau mawr, yn gymwys ar gyfer y rhaglen 20Twenty.  Gall unrhyw weithiwr cyflogedig hyd at lefel cyfarwyddwr sydd a chyfrifoldeb am reoli staff neu unrhyw berchennog sydd eisiau tyfu ei gwmni neu ei chwmni wneud cais.  Rhaid i'r busnes weithredu yn Nwyrain Cymru, neu raid gweithiwr cyflogedig fyw yn yr ardal.

 

Ffoniwch linell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Mae 20Twenty yn cael eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Rhestr Wirio Rhaglen Cronfeydd yr UE yng Nghymru
Ardal Cyflenwi Ddwyrain Cymru
European Social Fund
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Prifysgol Metropolitan Caerdydd