CGI

CWMNI YMGYNGHORI TG A BUSNES YN DATBLYGU’R GENHEDLAETH NESAF O ARWEINWYR DRWY BRENTISIAETHAU

Mae un o gyflogwyr TG mwyaf Cymru, CGI, yn dweud bod prentisiaethau wedi cryfhau’r busnes ac mae bellach yn annog cwmnïau eraill i wneud y penderfyniad gwych i recriwtio prentisiaid.

Mae CGI, sydd wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn rhedeg dwy Raglen Brentisiaeth ar hyn o bryd: Prentisiaeth Lefel 4 mewn Datblygu Meddalwedd, a Phrentisiaeth Lefel Gradd newydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe.

Meddai Maria Whittingham, arbenigwr recriwtio myfyrwyr CGI: “Mae prentisiaethau’n caniatáu inni ehangu ein gweithlu a chreu darpariaeth o gyflogeion â sgiliau ar gyfer y dyfodol.

“Mae ein Rhaglenni Prentisiaeth wedi’u teilwra a’u targedu ar gyfer pobl sy’n edrych am rolau mewn datblygu a chodio meddalwedd.

“Rydym ni nid yn unig yn buddsoddi’n fawr mewn talent ifanc, sy’n dod â budd i’r cwmni, ond rydym hefyd yn meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes technegol.

“Rydym wedi gweld effaith gadarnhaol ar yr holl weithlu ers inni ddechrau recriwtio prentisiaid. Maent yn dod â safbwynt newydd i’w timau ac i’r busnes ehangach, tra’u bod yn gwella eu sgiliau eu hunain. Maent yn helpu i yrru’r cwmni yn ei flaen drwy gyflwyno syniadau arloesol a byddwn yn annog unrhyw gyflogwr i ystyried y dull hwn o recriwtio.”

Recriwtiodd CGI ei brentis cyntaf yn 2007 ac mae wedi cynnal lefel uchel o gadw staff gyda’r mwyafrif helaeth yn mynd i gyflogaeth llawn amser o fewn y cwmni ar ôl cwblhau’r cwrs.

Meddai Maria: “Rydym yn gweithio’n agos gyda’n darparwyr hyfforddi i sicrhau bod ein Rhaglenni wedi’u teilwra i’n hanghenion busnes. Mae hyn yn bwysig inni oherwydd rydym yn gwybod wedyn bod ein prentisiaid yn dysgu sgiliau y gallant eu cymhwyso’n ymarferol a fydd yn cryfhau’r busnesau.

“Gwnaethom hefyd sefydlu cymuned gyrfaoedd cynnar i ddarparu cymorth a chyfleoedd datblygu parhaus i’n prentisiaid, sy’n herio eu prosesau meddwl, a gwella eu disgwyliadau gyrfaol.

“Rydym nid yn unig yn canfod bod ein prentisiaid yn mwynhau buddiannau cytundeb cyflogaeth parhaol, llawn amser, ond gallant hefyd edrych ymlaen at yr hyfforddiant strwythuredig, y dysgu ymarferol, a’r cymorth a’r anogaeth sydd eu hangen arnynt i gael dechreuad cryf i yrfa dechnegol.

“Drwy’r prentisiaethau, gallwn sicrhau bod gan ein prentisiaid ddealltwriaeth wirioneddol o’r diwydiant technoleg a’u bod yn gallu rhoi eu sgiliau ar waith yn ymarferol.

“Mae datblygiad personol hefyd yn hanfodol i yrfaoedd cynnar ein prentisiaid, i’w galluogi i gael profiad cyflawn a chydbwysedd wrth ddysgu sgiliau newydd. Mae sgiliau trosglwyddadwy, fel cyfathrebu a gwytnwch, yn bwysig i’w cymhwyso wrth ddysgu yn y swydd. Mae hyn yn allweddol wrth inni ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o bobl broffesiynol talentog.”

Ychwanegodd Maria: “Mae prentisiaethau’n ffordd gost-effeithiol o recriwtio talent newydd. Mae’r cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru yn gymhelliad ychwanegol inni ddatblygu ein Rhaglenni ymhellach.”