Emily Wintle: Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1)
Mae Emily Wintle yn ferch ifanc benderfynol iawn. Mae wedi goresgyn nifer o anawsterau ar y ffordd i ddod yn aelod gwerthfawr o staff meithrinfa St Aubin, y Bont-faen. Diolch i waith caled Emily a chefnogaeth ACT Training, Pen-y-bont, llwyddodd i gwblhau ei Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Gofal Plant mewn dim ond tri mis, gyda’r hyfforddwr a’i chyflogwr yn deall ei anawsterau. Mae dyslecsia difrifol ar Emily, sy’n byw yn Llanharri, ac mae arni angen llawer o gymorth ychwanegol i ddysgu sgiliau newydd. Bu’n destun datganiad trwy gydol ei hamser yn yr ysgol, lle’r oedd pobl yn edrych i lawr arni am fod ganddi anawsterau dysgu. Roedd yn teimlo’n ynysig ac fe effeithiodd hynny ar ei hunan-fri a’i hyder.
Er iddi weithio’n galed iawn, roedd yn ymdrech fawr i Emily gael y pedair TGAU yr oedd arni eu hangen i ddilyn cwrs coleg ar gyfer gyrfa'i breuddwydion, theatr gerddorol. Ar ôl wynebu sawl ergyd a chael cyflogwyr nad oedd yn deall ei hanghenion, llwyddodd Emily i gael lleoliad wrth ei bodd ym maes gofal plant. Erbyn hyn, mae’n gweithio llawn amser ac yn dilyn Prentisiaeth Sylfaen mewn Gofal Plant, gan obeithio gwneud Prentisiaeth y flwyddyn nesaf.
Meddai Emily: “Mae fy ngwaith caled a fy ymroddiad wedi dwyn ffrwyth. Rwy’n fwy penderfynol nag erioed o gyrraedd fy nod o fod yn nyrs feithrin.