Fab Wafer Casnewydd

Cwmni lled-ddargludyddion o Gasnewydd yn annog eraill i recriwtio prentisiaid

Mae’r gweithgynhyrchwyr microsglodion, Newport Wafer Fab, yn annog busnesau eraill yng Nghymru i recriwtio prentisiaid.

Mae’r cwmni, sy’n datblygu a dosbarthu ystod eang o dechnolegau lled-ddargludyddion, wedi bod yn cynnal eu Rhaglen Prentisiaid ers dros 25 mlynedd – yn meithrin talent sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru i’w helpu i ddiogelu eu gweithlu ar gyfer y dyfodol.  Dywedodd Simon Argent, cyfarwyddwr adnoddau dynol Newport Wafer Fab:

“Mae prentisiaid yn rhan allweddol o’n gweithlu yn Newport Wafer Fab.  Mae cyflwyno talent newydd i’r busnes yn bwysig iawn i ni oherwydd mae prentisiaid yn cyfrannu syniadau a brwdfrydedd newydd i’r tîm.  Ni fyddai’r cwmni wedi llwyddo i’r fath raddau heb ein prentisiaid, maent yn cynyddu cynhyrchiant ac yn ein galluogi i hyfforddi staff yn y sgiliau penodol sydd eu hangen arnom.  Maent wedi cael effaith gadarnhaol ar y gweithlu cyfan.

“Mae ein prentisiaid yn cael eu paru â mentor, ac mae hyn yn rhoi cyfle i’n gweithwyr presennol ddatblygu sgiliau rheoli – sy’n fantais ychwanegol i’r cwmni cyfan.  Mae’n ein galluogi i gynyddu lefelau sgiliau ein staff presennol yn ogystal â chau unrhyw fylchau sgiliau”.

Mae recriwtio prentisiaid wedi creu manteision anuniongyrchol i’r cwmni hefyd.  Ychwanegodd Simon: “Mae’r rhan fwyaf o’n prentisiaid rhwng 18 a 22 oed ac maent wedi tyfu i fyny gyda thechnoleg.  Mae ganddyn nhw ffordd wahanol o feddwl ac maen nhw’n herio ein prosesau meddwl presennol mewn ffyrdd cadarnhaol.  Fel diwydiant, mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i fod yn gystadleuol ac un cam ar y blaen yn y farchnad, ac mae ein prentisiaid yn dod â phersbectif newydd i’r cwmni.”

“Yn ogystal â bod yn ffordd gost effeithiol o ddatblygu talent, mae prentisiaethau hefyd yn fuddsoddiad yn y dyfodol.  Mae ein Rhaglen Hyfforddi Prentisiaid wedi’i theilwra i gyflawni eich anghenion busnes chi a gall ein prentisiaid ddefnyddio’r hyn y maent wedi’i ddysgu ar unwaith yn eu gwaith.  Byddant wedi’u cymhwyso’n dda pan fyddant yn cwblhau’r Rhaglen, a bydd ganddynt wybodaeth fanwl am y busnes a’i ofynion.”

Mae cael profiad llawn o’r cwmni yn un o egwyddorion allweddol y Rhaglen a gynigir yn Newport Wafer Fab.  Fel yr esboniodd Simon: “Mae ein prentisiaid yn gweithio drwy’r cwmni cyfan yn ystod eu hyfforddiant, sy’n golygu eu bod yn treulio amser gyda pheiriannydd ar bob cam o’r broses weithgynhyrchu.  Yn naturiol, byddwn yn gallu cael syniad o’r lle gorau iddynt yn y busnes a byddan nhw’n gallu adnabod eu cryfderau eu hunain.

“Rydym wedi gweld manteistion hirdymor y Rhaglen Prentisiaethau drosom ni ein hunain, ac mae llawer o’n huwch beirianwyr a mentoriaid peirianneg yn gyn-brentisiaid: mae’r wybodaeth a’r arbenigedd hwn yn cael ei wasgaru i sicrhau bod ein prentisiaid presennol yn dysgu oddi wrth y gorau.  Gallwn ddefnyddio’r profiad hwn hefyd er mwyn helpu i lywio ein cynlluniau ar gyfer hyfforddi recriwtiaid yn y dyfodol.”

Eleni, mae Wafer Fab wedi recriwtio pedwar prentis ar draws y busnes, yn ogystal â’r tri phrentis a gyflwynwyd i’r busnes yn 2019.  Mae Cameron Williams yn un ohonynt.

Dywedodd Cameron, prentis peirianneg drydanol 22 oed o Gastell-nedd: “Mae’r wybodaeth rwyf wedi’i dysgu drwy fy mhrentisiaeth hyd yma wedi rhoi darlun cyflawn i mi o beirianneg drydanol, sydd wedi golygu fy mod mewn sefyllfa wych i ddilyn fy mreuddwyd o fod yn beiriannydd.

“Dewisais ddilyn y llwybr hwn er mwyn cael profiad go iawn wrth i mi hyfforddi. Hebddo, fyddwn i ddim wedi cael dealltwriaeth wirioneddol o elfennau cymhleth y swydd.  Gallaf ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnaf i fod yn ddiogel, ochr yn ochr â’r theori sydd ei hangen i wneud y swydd a chael gyrfa lwyddiannus.  Rwy’n awyddus i fynd ymlaen i ddilyn Prentisiaeth Gradd mewn Peirianneg.”