Freight Logistics Solutions

Prentisiaid yn hollbwysig i dwf cwmni logisteg o fri.

Mae cwmni rheoli’r gadwyn gyflenwi, Freight Logistics Solutions (FLS), yn cefnogi Wythnos Prentisiaethau Cymru trwy ddweud bod prentisiaid yn hollbwysig i’w dwf diweddar ac mai prentisiaid yw 25% o’i weithlu.


Cynhelir Wythnos Prentisiaethau Cymru 2019 rhwng 4 ac 8 Mawrth. Mae’n dathlu effaith gadarnhaol prentisiaethau ar unigolion a busnesau fel ei gilydd, yn ogystal â chydnabod y sgiliau a’r doniau y gall prentisiaid eu cyfrannu at y gweithle.


Mae’r cwmni, a sefydlwyd ym mis Main 2016, newydd ehangu i leoliad newydd ym Mhont-y-pŵl, ac yn arbenigo ar faterion logisteg. Mae’n gweithio ledled y DU, Ewrop a thu hwnt er mwyn rheoli gwasanaethau cludo nwyddau effeithiol i fusnesau amrywiol.


Cafodd cwmni FLS, a enwyd yn fusnes newydd y flwyddyn Cymru yn 2018, ei gynllunio a’i lansio yn sgil prinder gyrwyr yn y DU. Yn ôl y rheolwr gyfarwyddwr, mae prentisiaid wedi’u galluogi i dyfu 770% yn y flwyddyn fasnachu gyntaf.


Gyda chwe phrentis yn y busnes, llwyddodd y cwmni i gyrraedd rownd derfynol ‘Cyflogwr Bach y Flwyddyn’ Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2018 yn ddiweddar. Mae prentisiaid FLS yn gweithio gyda’r darparwr hyfforddiant, Torfaen Training, ac yn dilyn hyfforddiant mewnol ar ddatblygu’r gadwyn gyflenwi hefyd.


Meddai Ieuan Rosser, entrepreneur y flwyddyn RBS 2018 (Cymru a Gorllewin Lloegr): “Mae prentisiaid yn rhan o’n cynllun busnes gwreiddiol o’r cychwyn, ac yn dal i fod yn rhan hanfodol o’n strategaeth dwf bum mlynedd. Yn bersonol, rwy’n sicrhau bod gennym ni arweinwyr amryddawn a hyderus ar gyfer dyfodol y busnes.


“Rydym eisoes wedi gweld bod prentisiaid yn llawn egni a gwybodaeth, ac yn dod â bwrlwm a syniadau newydd i’r gweithle. Maen nhw’n datblygu’n gyflym yn ein busnes ac yn dod yn rhan hanfodol o’n gwaith bob dydd o’r cychwyn cyntaf."

“Wrth recriwtio, rydyn ni’n chwilio am frwdfrydedd a photensial. Pan mae’r prentisiad yn dechrau, rydyn ni’n gofalu eu bod nhw’n treulio amser yn mynd o adran i adran, o Adnoddau Dynol i gyfrifon, logisteg a’r tîm trafnidiaeth. Pan rydych chi’n ifanc, dy’ch chi ddim yn gwybod beth yn union rydych chi am ei wneud felly rydym yn gweithio gyda’n gilydd, ac yn dibynnu ar sgiliau a diddordebau, maen nhw’n dilyn llwybr pwrpasol i’r yrfa dan sylw."

 “Hefyd, rydym yn gwobrwyo datblygiad personol gydag adolygiadau cyflog er mwyn cydnabod sut mae prentisiaid yn cyfrannu at y busnes ac er mwyn darparu cymhellion i fodloni’r amcanion sy’n cael eu gosod bob chwarter. Dwi wedi bod yn glir o’r cychwyn am berfformiad busnes, gan ein bod ni’n rhan o hyn gyda’n gilydd ac mae’r prentisiaid wedyn yn gallu deall y darlun mwy.

“Bu’n rhaid symud i swyddfeydd mwy yn ddiweddar, a’n targed dros y pum mlynedd nesaf yw dyblu staff a throsiant. Hoffwn sicrhau ein bod ni’n cadw’r gymhareb 1:4 o brentisiaid.”

Cynllunydd cludiant yw prentis cyntaf FLS, Ben Jones, sy’n gweithio tuag at brentisiaeth Lefel 2 mewn gweinyddu busnes.

Meddai Ben sy’n 19 oed ac o Oakdale, Cwmbrân: “Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd dal ati yn y coleg gan nad oedd yr hyn yr oeddwn i’n ei ddysgu’n berthnasol i sefyllfaoedd bywyd go iawn. Penderfynais ymchwilio i brentisiaethau, a gweld cyfle gyda FLS – gan deimlo y gallwn roi fy marc arno fel cwmni newydd.

“Dw i wedi cael profiad ym mhob adran, ond yn mwynhau’r maes cynllunio cludiant nwyddau yn arbennig. Dw i’n gweithio pum diwrnod yr wythnos yn FLS ac yn cael neilltuo rhan o’m diwrnod i gwblhau fy ngwaith - ac yn llwyddo i ennill y blaen ar yr amserlen ar hyn o bryd ac ar fin cwblhau fy nghymhwyster lefel 2 bedwar mis yn gynnar."

“Dw i’n gwybod bod gen i swydd lawn amser ar ôl i mi orffen, ac yn gwybod beth yn union sydd angen ei wneud i gyrraedd y nod. Roeddwn i’n meddwl y byddai fy rhieni mor siomedig pan ddywedais nad oeddwn am barhau yn y coleg, ond mewn gwirionedd, dywedodd dad taw’r brentisiaeth hon yw’r peth gorau dw i wedi’i wneud erioed gan ei bod yn cynnig pwrpas a chyfeiriad arbennig.”

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: “Mae’n amlwg bod prentisiaethau yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr, nid yn unig i unigolion ond hefyd y llu o fusnesau â bylchau neu brinder sgiliau. Trwy Wythnos Prentisiaethau Cymru, cawn ddathlu hyfforddiant galwedigaethol a’r holl bobl hynny sy’n elwa ar brentisiaethau ar hyn o bryd."


“Mae prentisiaethau’n ffordd wych o deilwra set sgiliau’r gweithiwr er mwyn ateb gofynion y busnes yn ofalus a meithrin doniau Cymru gyfan. Edrychaf ymlaen at barhau i helpu busnesau a phrentisiaid sy’n gobeithio elwa ar yr elfen hollbwysig hon o’r economi.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

I weld sut allai’ch busnes elwa ar recriwtio prentis, ewch i’r Porth Sgiliau i Fusnes yn https://busnescymru.llyw.cymru/porthsgiliau/prentisiaethau neu ffoniwch 03000 6 03000.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cofiwch hefyd am www.facebook.com/apprenticeshipscymru neu @apprenticewales ar Twitter, a dilynwch yr hanes trwy ddilyn hashnod #WPCymru.
 


Cronfeydd yr UE yng Nghymru

Mae'r Rhaglen Brentisiaethau ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

 

Rhestr Wirio Rhaglen Cronfeydd yr UE yng Nghymru
Ardal Cyflenwi Cymru Gyfan
European Social Fund
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Llywodraeth Cymru