Gwnewch y cysylltiadau cywir gyda phrentisiaethau

EE Ltd.

Mae prentisiaethau yn hanfodol i EE. Y cwmni cyfathrebu digidol hwn yw’r mwyaf yn y DU ac mae mwy na 600 o staff yn cael eu cyflogi yn ei ganolfan gyswllt ym Merthyr Tudful. 

Roedd angen cronfa newydd o adnoddau ar y cwmni, ffordd newydd o gadw staff yn ystod cyfnodau hanfodol, dull newydd o ddatblygu talent y dyfodol a chyfle i ddatblygu ei fodel cymorth cymunedol.

Mae cyfraddau gadael ac absenoldebau oherwydd salwch wedi haneru o dan y rhaglen. Mae lefelau ymgysylltu’r gweithwyr wedi treblu hefyd, ac mae cynhyrchiant wedi gwella a chostau wedi syrthio.

Mae mwy na £300,000 o arbedion wedi’u gwneud yn flynyddol diolch i leihau absenoldebau.

Datblygodd EE ei Rhaglen Brentisiaethau yn 2012 ar y cyd â Choleg Merthyr Tudful, gyda 90 o brentisiaid yn dechrau yn y flwyddyn gyntaf. Mae ganddyn nhw dros 400 o brentisiaid erbyn hyn. 

Dyma oedd gan Claire Litten-Price, Rheolwr Gweithrediadau i’w ddweud: “Roedden ni’n gwybod bod tua 11 y cant o bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed ym Merthyr Tudful yn cael Lwfans Ceiswyr Gwaith a bod hynny yn cynnig cyfle inni gyrraedd aelodau allweddol o’r boblogaeth.

“Mae prentisiaid yn llawn egni a brwdfrydedd. Maen nhw wedi tyfu i fyny gyda thechnoleg ac maen nhw’n deall yn reddfol beth yw anghenion cyfnewidiol ein cwsmeriaid ni.

"Mae hynny yn dod â sgiliau newydd i EE sydd, pan fo hynny’n cael ei gyfuno â phrofiad y gweithwyr sydd wedi bod gyda ni hwyaf, yn rhoi rhywbeth arbennig i ni sydd wir yn gyrru ein huchelgais ar gyfer y gwasanaeth.”

Yn sgil llwyddiant y Rhaglen Brentisiaethau, mae wedi’i hymestyn i feysydd manwerthu a chorfforaethol y busnes.