Happy Horse Retirement Home: Cyflogwr Bach y Flwyddyn

Mae perchnogion y cartref ymddeol preifat cyntaf i geffylau ym Mhrydain yn credu'n gryf mewn datblygu eu staff trwy Raglenni Prentisiaethau.

Agorwyd yr Happy Horse Retirement Home gan Nicky a Ray Van Dijk yng Nghrai, ger Aberhonddu, yn 1989 ac erbyn hyn mae wyth o staff yn gofalu am 50 o geffylau. Mae’r cwmni wedi helpu i hyfforddi naw o brentisiaid yn y pum mlynedd diwethaf a’r rhan fwyaf ohonynt wedi symud ymlaen i yrfaoedd yn y diwydiant ceffylau. Mae un o’r cyn-brentisiaid yn cynrychioli Prydain yng nghamp gyrru ceffylau mewn harnes.

Nid yw’r Happy Horse Retirement Home yn ddieithr i Wobrau Prentisiaethau Cymru gan fod y rheolwr cynorthwyol, Marc Pugh, wedi ennill Gwobr Cyflawnwr Eithriadol Twf Swyddi Cymru y llynedd. Mae ei lwyddiant ef wedi ysbrydoli eraill i ddilyn gyrfa yn y diwydiant ceffylau. Mae’r cwmni’n cynnig amryw o fathau o hyfforddiant i’w staff, o Brentisiaethau Sylfaen i Brentisiaeth Uwch, ac fe ddatblygir hyfforddiant personol i helpu pobl i gyrraedd eu targedau unigol. Coleg Cambria sy’n cyflenwi’r prentisiaethau.

Dywedodd Katy Davies, asesydd astudiaethau ceffylau gyda Coleg Cambria: “Mae prinder mawr o weithwyr medrus yn y diwydiant ceffylau, yn arbennig mewn ardaloedd anghysbell o Gymru. Mae Nicky’n galluogi pobl ifanc i ganfod swydd addas, ennill cymwysterau gwerthfawr a pharatoi ar gyfer dyfodol llwyddiannus.