Jordan Jones: Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu)
Mae Jordan Jones wedi dod dros y drychineb o golli ei dad a’i fam ar wahanol adegau yn ystod ei blentyndod anodd.
Yn ogystal â symud tŷ sawl gwaith, bu’n rhaid iddo symud i wlad newydd, gan adael ei gartref yn Stoke-on-Trent a symud i Fangor at ei fodryb a’i ewythr oedd yn ei gefnogi. Ac yntau newydd gael ei ben blwydd yn 18, gall Jordan edrych yn ôl ar y newid mawr a fu yn ei fywyd, o fachgen ifanc cythryblus i oedolyn hyderus sydd â dyfodol disglair yn y diwydiant moduron.
Rhaglen Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) gyda’r darparwr dysgu Grŵp Llandrillo Menai ar gampws Caernarfon sydd wedi rhoi’r hwb mawr i’w hyder a’i frwdfrydedd. Yn ystod lleoliad cychwynnol gyda Ty’n Lon Volvo yn Llanfair Pwll dechreuodd Jordan ragori, gan ddechrau gyda Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn ac yna gwblhau cymwysterau ychwanegol Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, y ddau ar Lefel 2.
Jordan enillodd gwobr Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) y Flwyddyn gan Grŵp Llandrillo Menai ym mis Chwefror eleni.
Meddai Jordan: “Mae’n fy nychryn i feddwl y gallwn i fod yn dal yn y lle tywyll hwnnw heb y gefnogaeth rwy wedi’i chael gan fy nheulu, y coleg a fy nghyflogwr.