Neidiwch o flaen y gweddill gyda phrentisiaethau

Tree Frog Creative

Cafodd Tree Frog Creative ei sefydlu ym mis Rhagfyr 2011 gan Chris a Karen Grice i helpu eu cwsmeriaid i dyfu drwy wneud busnes ar-lein ond mewn ffordd egwyddorol, sy’n cael effaith gadarnhaol ar y sefydliadau maen nhw’n gweithio gyda nhw ac ar gymunedau lleol.

Pan oedd yn ei arddegau, gweithiai Chris fel aelod iau o dîm a oedd yn gweithio ar y we a dyna pryd ddaeth ef i ddeall gwerth dysgu seiliedig ar waith mewn diwydiant sy’n datblygu’n gyson. Dyna pam mae ef mor frwdfrydig dros hyfforddiant.

Gan weithio’n agos gyda Choleg Cambria, mae’n annog dau brentis y cwmni i ddatblygu sgiliau drwy gael hyfforddiant ffurfiol ac ennill cymwysterau.

Maen nhw hefyd yn cael cefnogaeth arloesol barhaus gan diwtoriaid ac yn mynd ati eu hunain i gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad nhw eu hunain.

“Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i dalu rhai o’r costau hyfforddi ac asesu. Felly, dydych chi ddim ar eich colled yn ariannol pan fyddwch chi’n neilltuo amser i fentora a hyfforddi eich prentis i ennill y sgiliau sydd eu hangen ar eich busnes,” meddai Chris.

“Rydyn ni’n credu y bydd yr amser y byddwch chi’n ei neilltuo ar y cychwyn i arwain a hyfforddi eich prentis bendant yn talu ffordd oherwydd bydd y profiad a’r cymwysterau byddan nhw’n eu hennill yn helpu eich busnes i ddod yn fwy cynhyrchiol a chystadleuol yn y pen draw.

“Rydyn ni wedi gweld twf o 50 y cant bob blwyddyn ers inni sefydlu’r cwmni a dw i’n hyderus mai recriwtio prentisiaid ymroddgar a hyblyg, sydd wedi cael eu hyfforddi a’u meithrin gennym ni i ddiwallu anghenion unigryw ein busnes, sy’n gyfrifol am y cynnydd hwn.”