Openreach

PRENTISIAETHAU YN AILFYWIOGI BUSNES OPENREACH

Mae prentisiaethau wedi bod yn rhan allweddol o strategaeth recriwtio Openreach erioed, ac mae’r cwmni telathrebu bellach yn annog busnesau eraill i ystyried prentisiaethau i helpu i greu cronfa dalent ar gyfer y dyfodol.

Meddai Sean Binks, uwch-reolwr cynllunio ffeibr Openreach: “Mae prentisiaethau’n chwarae rhan hanfodol o ran ein helpu i sicrhau llwyddiant ein busnes yn y dyfodol ac maent yn llwybr gwych i’r gweithle ar gyfer unigolion. Yn Openreach, rydym yn rhoi pwys mawr ar recriwtio prentisiaethau newydd i ystod eang o rolau ac rydym yn gwerthfawrogi’r cyfraniad sylweddol y maent yn ei wneud i’r busnes, o syniadau a safbwyntiau newydd, i sgiliau a phrofiadau newydd.

“Rydym yn recriwtio prentisiaid yn rheolaidd i’n holl dimau darparu gwasanaethau a rhwydweithiau. Rydym hefyd wrthi’n recriwtio pobl newydd i’n tîm cynllunio, ac ar hyn o bryd rydym yn recriwtio carfan o brentisiaid cynllunio yn ein safle strategol yng Nghaerdydd. Mae’r Rhaglen Brentisiaethau benodol hon yn gofyn am sgiliau technegol a sgiliau o safon uchel, ac rydym wedi sicrhau bod digon o waith cynllunio’n cael ei wneud er mwyn teilwra ein Rhaglen Brentisiaethau i ddiwallu anghenion y busnes.”

Mae Openreach yn cyflogi tua 3,000 o brentisiaid bob blwyddyn, gyda phob prentis unigol yn cael darlun llawn o’r cwmni cyfan:

“Beth bynnag yw’r rhaglen unigol, bydd pob un o’n prentisiaid yn cael profiadau hyfforddi o ansawdd, sy’n cynnwys treulio cyfnod sylweddol o amser yn gwneud gwaith ymarferol yn y maes. Mae hyn yn hanfodol gan ei fod yn dysgu’r prentisiaid am bob rhan o’r busnes, a’r hyn y mae’n gorfod delio ag ef bob dydd.

“Mae gennym ganolfan hyfforddi ‘stryd agored’ bwrpasol yng Nghasnewydd, ac mewn lleoliadau eraill ledled y DU, ar gyfer ein holl recriwtiaid newydd. Mae’r canolfannau hyn yn ail-greu sefyllfaoedd go iawn ar gyfer ein prentisiaid er mwyn iddynt ddefnyddio’r sgiliau angenrheidiol mewn modd ymarferol. Mae’n dysgu iddynt beth yn union y mae eu rôl nhw yn ei olygu yn ogystal â rôl y cwmni cyfan.”

Mae Openreach yn cadw nifer fawr o’i brentisiaid. Dechreuodd Sean ei yrfa fel prentis yn y cwmni. Ychwanegodd:

“Mae gennym lwybr dysgu clir ar waith ar gyfer ein holl brentisiaid, fel eu bod yn deall sut maen nhw’n meithrin y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y swydd. Rydym yn cadw’r rhan fwyaf o’n prentisiaid a’r cyfleoedd hirdymor hyn sy’n eu hysgogi. Gyda swydd derfynol mewn golwg, mae ein prentisiaid yn teimlo bod ganddynt ddyfodol gyda’r cwmni ac maen nhw’n ein helpu i ddatblygu cronfa o dalent sy’n rhoi hwb i’r busnes.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda chyn-brentisiaid i ddysgu am eu profiadau a lle y gallwn wella, gan sicrhau ein bod yn darparu’r Rhaglen orau bosibl, sy’n dod â budd i Openreach yn y pen draw.

Mae prentisiaid yn gwella cynhyrchiant ein busnes, gyda phob prentis yn cael ei baru â mentor sy’n frwdfrydig i rannu’r sgiliau a’r wybodaeth y maent wedi’u dysgu. Mae prentisiaid yn dod ag egni, cynnwrf a brwdfrydedd i’r busnes - sy’n cael effaith gadarnhaol ar y gweithlu cyfan.”