Sicrhau bod prentisiaethau’n gweddu i anghenion economi Cymru
Rydym wedi bod yn gwahodd sylwadau ar ddatblygu model prentisiaethau ar gyfer Cymru i weld sut gallwn ni sicrhau eu bod yn gweddu i anghenion economi Cymru.
Ein gweledigaeth yw datblygu system brentisiaethau cadarn ac ymatebol, a fydd yn eich helpu i ddatblygu a darparu prentisiaethau arloesol sy’n briodol ar gyfer y diwydiant.
Mae angen system sy’n hybu twf economaidd, sy’n ymateb i anghenion economi’r dyfodol, ac sy’n darparu amrywiaeth o sgiliau a allai hwyluso symudedd cymdeithasol ac sy’n sicrhau cyfle cyfartal.
Rydym yn awyddus i gael rhaglen brentisiaethau sy’n ennyn parch cyflogwyr, unigolion a rhieni.
Wneath ein ymgynghoriad gofyn sut y gallwn wireddu’r weledigaeth hon, fel y bydd ein model prentisiaethau’n gweddu’n well i anghenion economi Cymru.
Camau Nesaf
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r ymatebion i’r ymgynghoriad. Bydd yr ymatebion yma yn ein helpu i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer model prentisiaethau newydd i Gymru.
Am grynodeb o’r ymatebion lawr lwythwch y ddogfen isod.