Stephen Pickles: Prentis y Flwyddyn

Yn yr ysgol, roedd Stephen Pickles yn hoffi gwersi ymarferol ac roedd yn mwynhau gweithio ar brosiectau gartref. Roedd yn gwybod nad oedd am ddilyn cwrs llawn amser yn yr ystafell ddosbarth a phenderfynodd ar yrfa mewn peirianneg.

Pan oedd yn 16 oed, cafodd gynnig prentisiaeth gyda’r cwmni peirianneg byd-eang Renishaw sy’n ymwneud â mesur, rheoli symudiad, gofal iechyd, spectroscopeg a gweithgynhyrchu. Mae’r cwmni’n cyflogi dros 2,800 o bobl yn y Deyrnas Unedig.

Mae Stephen, sy’n 19 oed, wedi ennill HNC mewn Gweithgynhyrchu Mecanyddol ym maes Peirianneg â rhagoriaeth, cymhwyster comisiynu NVQ lefel 3 trwy Brifysgol De Cymru, a llwyddodd i wneud hynny yn hanner yr amser a ganiatawyd. Mae’n bwriadu symud ymlaen i HND llawn a Diploma mewn Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Fecanyddol.

Erbyn hyn, mae Stephen, sy’n byw yn Llanrhymni, yn ei flwyddyn 'wella' olaf gyda Renishaw. Mae wedi cwblhau naw prosiect, pob un â ffolderi technegol a phob un yn llwyddiannus – y tro cyntaf i brentis lwyddo i wneud hyn ar safle Meisgyn.

Llwyddodd i ragori ar ddisgwyliadau pawb pan gwblhaodd ei brosiect cyntaf yn ddim ond 16 oed – prosiect yr oedd graddedigion wedi methu ei gwblhau o fewn yr amser. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio yn y Grŵp Datblygu Cydosod Renishaw lle mae’n helpu i wneud newidiadau peirianyddol i beiriannau gweithgynhyrchu ychwanegion metal.