Brød

Stori Brød

Mae'r becws ym Mhontcanna yn annog busnesau eraill i ddewis prentisiaethau fel ffordd o ddod â syniadau arloesol i'r gweithle.


Cafodd Brød, y becws a'r siop goffi Ddanaidd, a agorodd yn 2015, ei hysbrydoli gan awydd y perchennog Betina Skovbro i ddod â phobi traddodiadol Denmarc i brifddinas Cymru. Wrth wneud hynny, mae wedi creu cyfle unigryw hefyd i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o bobyddion proffesiynol yn y grefft o bobi Danaidd.


Prentisiaethau oedd y dewis amlwg er mwyn recriwtio a hyfforddi staff

Meddai Betina: “I ni, cyflogi prentisiaid yw'r ffordd ddelfrydol o hyfforddi ein staff, gan eu bod yn dysgu'r union dechnegau sydd eu hangen arnom yn y becws i greu ein cynnyrch unigryw. Rydym yn gweld yn aml bod ein prentisiaid yn dysgu'n llawer cyflymach wrth wneud y gwaith nag y byddent mewn amgylchedd dysgu gwahanol, ac mae'n wych eu gweld yn datblygu ac yn tyfu mor gyflym.

Ym mis Ionawr 2020, bydd Betina yn agor ail safle, ym Mhenarth, gan greu 15 -18 o swyddi newydd, gan ddyblu allbwn pobi cyffredinol y cwmni.


Dyrchafiad i’r prif bobydd o fewn y flwyddyn

A hithau wedi bod yn bobydd brwd erioed, roedd Rebekah Chatfield, 24 o Abertyleri, wedi tybio y byddai angen blynyddoedd o hyfforddiant drud arni i ddilyn gyrfa mewn patisserie.

Cofrestrodd Rebekah ar Dystysgrif Lefel 3 mewn Hyfedredd yn Sgiliau’r Diwydiant Pobi ym mis Mawrth 2017, a oedd yn golygu gweithio'n llawn amser yng nghegin y becws a sefyll arholiadau ymarferol bob chwarter ar y safle.

Dywedodd Rebekah: “Mae dod o hyd i brentisiaeth wedi newid fy marn ar gyfleoedd gyrfa yn llwyr ac rwy'n teimlo ei fod wedi agor cymaint o ddrysau i mi weithio mewn diwydiant sy'n wirioneddol bwysig i mi. Rwyf wedi cael dyrchafiad i fod yn Brif Bobydd ar ôl dim ond blwyddyn, gan ysgwyddo cyfrifoldebau rheoli, sy'n dangos bod fy mhrentisiaeth a'm hyfforddiant ymarferol wedi bod yn berffaith.”