Bryson Recycling
Stori Bryson Recycling
Mae cwmni ailgylchu yn Abergele yn dweud bod prentisiaethau yn hanfodol i gynnal gweithlu cynaliadwy drwy ddatblygu sgiliau a buddsoddi yn noniau’r dyfodol.
Ehangodd Bryson Recycling, menter gymdeithasol ailgylchu fwyaf y DU, i’r Gogledd yn 2005 gyda’r nod o wella’r dasg o reoli gwastraff yn gyfrifol a chynnig cyflogaeth hirdymor i staff o bob oed ac o bob cefndir.
Recriwtio yn cefnogi'r gymuned
Meddai Dan McCabe, Goruchwyliwr Safle yn Bryson Recycling; “Mae’r ffaith y gallwn dalu’r gymwynas i’r gymuned drwy gynnig ail-gyfle i bobl yn goron ar y cyfan i’n tîm.
“Mae angen i’n prentisiaid gael dealltwriaeth dechnegol o bopeth, o reoliadau draenio gwastraff priodol i waredu gwastraff peryglus. Mae gwybodaeth ymarferol, drefnus fel hyn yn hollbwysig ac yn rhywbeth sy’n amhosibl ei gael heb yr hyfforddiant wedi’i deilwra y mae prentisiaeth yn ei gynnig.”
Cafodd Andrew Bennett, 51 oed o Fae Cinmel, ail gyfle yn Bryson Recycling ac mae bellach yn astudio tuag at ei gymhwyster Lefel 4.
Mae Andrew yn ddyslecsig ac mae ganddo nam ar y golwg, sy’n golygu ei fod yn ddall mewn un llygad, ond doedd ddim am adael i hynny ei ddal yn ôl.
Aeth Dan ymlaen: “Mae Andrew wedi dod yn gaffaeliad go iawn i’r tîm, ac mae wedi bod yn chwa o awyr iach gweld prentis mor frwd yn dringo’r ysgol ac yn datblygu mor gyflym. Mae’n wych gyda chwsmeriaid ac yn deall ochr dechnegol pethau go iawn, gan gynnig arweiniad i aelodau staff newydd pryd bynnag fo angen.
“Wrth i ni siarad am ein prentisiaid mae llawer o bobl yn cymryd yn ganiataol ein bod yn sôn am bobl ifanc sydd newydd adael yr ysgol, ond rydym yn pwysleisio ar unwaith y gall prentisiaid fod o bob oed dan haul. Mae profiad bywyd Andrew yn ei helpu i uniaethu â chwsmeriaid a staff, ac mae dod o hyd i yrfa yn hwyrach yn ei fywyd wedi rhoi’r sbardun iddo weithio’n galed ac wedi profi y gall gyflawni unrhyw beth sy’n mynd â’i fryd.
Cymryd y cam nesaf gyda Phrentisiaeth
Meddai Andrew: “Mae’r gwaith yn llawn her ond yn ddiddorol bob amser - law yn llaw â sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid, mae’n rhaid i ni wybod beth yw beth hefyd o ran deddfwriaeth ar reoli gwastraff yn gyfrifol, cyrchfannau gwaredu gwastraff a rheoliadau ar gyfer didoli gwastraff peryglus.
“Fel rhan o’m cynnydd drwy fy mhrentisiaeth, rwy’n ysgwyddo cyfrifoldebau goruchwyliwr pryd bynnag na fydd fy ngoruchwyliwr ar ddyletswydd, ac rwy’n gobeithio symud ymlaen i swydd goruchwyliwr llawn amser yn y dyfodol.”