Clive Atkins & Co

Stori Clive Atkins & Co

Mae Clive Atkins & Co, y cwmni cyfrifyddiaeth o Abertawe, yn hyrwyddo prentisiaethau ar ôl llwyddo i recriwtio nifer o brentisiaid mewn bron i 25 mlynedd ers agor ei ddrysau yn yr hen swyddfa ar Stryd Mansel ym 1995.

Ar hyn o bryd, mae’r cwmni yn cyflogi pedwar prentis, ac maen nhw i gyd wedi ymrestru ar brentisiaeth Technegwyr Cyfrifyddiaeth Cyswllt Lefel 2. Mae prentisiaid yn treulio un diwrnod yr wythnos yng Ngholeg Gŵyr lle maen nhw’n dysgu’r ddamcaniaeth sy’n llywio eu gwaith o ddydd i ddydd yn y cwmni, gan gefnogi cyfrifwyr cwbl gymwys gyda gwahanol gleientiaid amrywiol.

Cynnig datblygiad gyrfaol hirdymor

Meddai Clive Atkins, cyfarwyddwr a sylfaenydd y cwmni: “Mae prentisiaid wedi gadael i’n cwmni fynd o nerth i nerth. Nid yn unig ein bod yn gallu rhoi’r cyfle i bobl ifanc sy’n gweithio’n galed i ennill cymwysterau a phrofiad gwaith, ond mae’r tîm cyfan yn dysgu gan ein prentisiaid sy’n cyfrannu eu gwybodaeth berthnasol a chyfoes.

“Ers i ni ddechrau cyflogi prentisiaid, rydym ni wedi sicrhau bod ein hyfforddeion yn mynd i’r afael â’r busnes ar unwaith. Mae ein prentisiaid yn dechrau dysgu egwyddorion cyfrifyddiaeth o’r diwrnod cyntaf, gan astudio a defnyddio’u gwybodaeth am ffurflenni treth, rheolaethau banc ac archwiliadau credyd, ac yna maen nhw’n astudio’n rhan-amser i gymhwyso’n llawn a chyrraedd lefel Cyfrifwyr Siartredig yn y pen draw.

“Rydym yn derbyn cannoedd o geisiadau bob blwyddyn, ac mae ein prentisiaid yn y gorffennol wedi mynd ymlaen i fod yn Gyfarwyddwyr Ariannol, neu Bartneriaid mewn cwmnïau Cyfrifyddiaeth - i ni, dydy ni ddim am i bobl arwyddo contract oes gyda ni, dim ond cynnig y cyfle i unigolion dawnus gymhwyso a gweithio yn ein tîm.”

Ennill profiad proffesiynol

Dechreuodd Ashleigh Jones, 23 oed o Lansamlet, ei phrentisiaeth yn 2018. Meddai Ashleigh: “Rydw i eisoes wedi sylw bod fy mhrentisiaeth wedi agor cymaint o ddrysau i brofiadau proffesiynol fel cadw llyfra ar gyfer cleientiaid amrywiol, gweinyddu cyflogres a meddalwedd cyfrifyddiaeth. Rydw i’n gweithio ar draws adrannau ac yn dysgu gan uwch aelodau o staff am bob maes cyfrifyddiaeth sydd wedi bod yn ddiddorol iawn ac yn amrywiol.

“Fy mhrentisiaeth oedd y dewis gorau i mi, gan ei fod yn golygu y gallwn i ddechrau arni yn y sector ariannol ar unwaith. Rwy’n bwriadu aros yma a dringo’r ysgol i fod yn Gyfrifydd Siartredig yn y tair neu bedair blynedd nesaf, a fydd yn llawn her ac yn talu ar ei ganfed ar yr un pryd.”