Gofal Dydd Little Tigers
Cyflogodd Gofal Dydd Little Tigers Ellie Curtis o Rogiet, fel ei brentis gwaith-chwarae cyntaf. Mae ganddi awtistiaeth a dyslecsia ac mae angen cymorth ychwanegol arni o ddydd i ddydd.
Meddai Natalie Hughes, Rheolwr Meithrinfa Little Tigers: “Rhoddwyd cyfle i Ellie fel prentis Gwaith-Chwarae Lefel 3. Roedd hi’n cael trafferth dod o hyd i leoliad prentisiaeth â thâl i ddechrau, felly awgrymodd ei chynghorwr ei bod yn ystyried ymuno â’r busnes teulu fel prentis cyntaf y feithrinfa.
Rydym yn falch iawn sut mae Ellie wedi dod ymlaen ers iddi ddechrau gyda ni. Mae’n gallu troi ei llaw at bopeth ac mae’n bleser gweithio gyda hi, a dyw ei hawtistiaeth hi heb achosi unrhyw bryder.
Yn ddiweddar cafodd ei dyrchafu i swydd Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan roi cyfrifoldeb iddi dros weithio gyda’r therapyddion lleferydd ac iaith ac ymwelwyr iechyd, i greu cynlluniau datblygu unigol ar gyfer y plant.
Mae Ellie wedi mynd i’r afael â her ei rôl newydd yn wych. Mae ganddi gymaint o ymroddiad, a wastad yn mynd yr ail filltir pryd bynnag y gofynnir iddi wneud rhywbeth. Yn ddiweddar, mae hi hyd yn oed wedi dechrau mentora gweithwyr newydd yn y feithrinfa hefyd, gan roi arweiniad a chroeso iddyn nhw.
Mae Ellie wedi datblygu’n esiampl iddyn nhw gan ei bod yn deall beth sy’n eu hwynebu. Mae’n hyfryd sut mae’r plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cymryd ati mor hawdd.
Nod Ellie bellach yw gweithio gyda phlant ag e anghenion dysgu ychwanegol yn unig a chwblhau ei phrentisiaeth Rheoli Lefel 5 a fydd yn agor drysau iddi wrth iddi gymryd y cam nesaf yn ei gyrfa".