ITV Cymru

 

Mae ITV Cymru yn cyflogi Safyan Iqbal yn ei Bencadlys ym Mae Caerdydd. Ganwyd Safyan gyda chlyw gwael a waethygodd dros amser hyd nes iddo gael llawdriniaeth yn 11 oed i osod mewnblaniad yn y cochlea, a’i helpodd i glywed yn gliriach. Roedd e wastad wedi eisiau gweithio ym myd teledu ond roedd yn poeni y byddai bod yn fyddar yn rhwystr iddo.

Meddai Nia Britton, Rheolwr Gweithrediadau yn ITV Cymru: “Dechreuodd Safyan wneud rhywfaint o brofiad gwaith gyda ni yn ITV Cymru, a arweiniodd at interniaeth â thâl am fis. Yna, dewiswyd Safyan o blith cannoedd o ymgeiswyr ar gyfer y brentisiaeth llawn amser yn ein Pencadlys. Mae e bellach yn Brentis Cyfryngau Creadigol a Digidol gyda ni, lle mae e wedi dysgu amrywiaeth o sgiliau, gan gynnwys sut i weithredu camerâu, saethu a golygu fel rhan o’i uchelgais i ddod yn weithredwr camera neu wneuthurwr ffilmiau.


Mae Safyan yn un o bedwar prentis, ac fe ymunodd â ni ar sail teilyngdod. Crëodd ei bersonoliaeth a’i ymagwedd at waith gryn argraff arnom ni – fe yw un o’r gweithwyr caletaf rwy’n eu hadnabod ac mae e wrth ei fodd yn ffilmio a golygu. Mae e’n berson gwych i fod yn ei gwmni ac rydyn ni’n dysgu llawer ganddo. Dydyn ni ddim yn gwneud unrhyw ragdybiaethau ynglŷn â’i allu a byddwn ni’n rhoi cymaint o help iddo ag y bydd ei angen.”