Lifftiau ACE
Cyflogodd ACE Lifts Ben Hamblett o Wrecsam fel Prentis Peirianneg Trydanol ac Electroneg. Mae Ben, 28 oed, yn fyddar ac roedd yn ofnus y byddai hyn yn ei atal rhag gweithio yn y diwydiant peirianneg.
Meddai Andy Gill, Rheolwr Gweithdy ACE Lifts: “Cyflogwyd Ben fel prentis gyda ni, yn gweithio mewn tîm bach yn weirio unedau cydrannau lifft.
Mae gan Ben HNC mewn Peirianneg ond roedd yn cael trafferth cael gwaith am bum mlynedd oherwydd ei fod yn fyddar. Yn sgil hyn, mae’n dioddef diffyg hyder a gorbryder.
Roedd yn bryderus i ddechrau am anfon ceisiadau i mewn gan ei fod yn teimlo y gallai rhai cwmnïau fod â chamsyniadau y byddai pobl fyddar yn risg iechyd a diogelwch yn y gweithle. Fodd bynnag, crybwyllwyd Prentisiaeth Peirianneg Trydanol ac Electroneg Lefel 3 gan gynnig gwaith deuddydd yr wythnos iddo am gyfnod prawf.
Roedd Ben yn un o wyth unigolyn a ddaeth i mewn am gyfnod prawf gwaith ar gyfer y cyfle prentisiaeth a gwnaeth argraff ar unwaith. Cynigiwyd y rôl i Ben a dyw’r ffaith ei fod wedi colli ei glyw ddim yn broblem o gwbl. Pan ddechreuodd , rhannodd ei gyngor ar gyfer cyfathrebu’n effeithiol â’r tîm a dydyn ni ddim wedi gorfod trafod y peth ers hynny.
Mae Ben yn gobeithio dangos i bobl anabl eraill y gallai prentisiaeth fod yn drobwynt ar gyfer y rhai sy’n gobeithio ymuno â’r byd gwaith. Mae’n dysgu sgiliau newydd bob dydd ac mae wedi cael dealltwriaeth ynglŷn â sut mae’r cyfarpar a’r cydrannu lifft yn gweithio. Mae’n ymddangos yn llawer mwy positif am y dyfodol nawr.”