Mainetti

Mainetti

Prentisiaethau’n gwella ymroddiad staff gweithgynhyrchydd yn Wrecsam.

Cwmni dylunio, gweithgynhyrchu ac ailgylchu cynhyrchion hongian dillad yw Mainetti. Mae ganddo leoliadau ar draws y byd, a thri yn y DU. Mae’r gangen yn Wrecsam yn cyflogi 220 o bobl, a phawb ohonynt yn gymwys am raglen hyfforddiant prentisiaeth fewnol Mainetti.

Meddai Mikolaj Pietrzyk, rheolwr safle cangen Mainetti yn Wrecsam: "Dechreuodd ein rhaglen brentisiaeth yn 2012, fel ffordd o gynnig dewis i’r staff dderbyn hyfforddiant mewn swydd a gwella eu sgiliau. Mae’r rhaglen ar gael i’n holl weithwyr ac yn eu galluogi i ennill cymwysterau NVQ, o lefel dau i lefel pump mewn rheoli adnoddau’n gynaliadwy – rhywbeth sy’n hanfodol i’n gweithrediadau busnes ni."


"Ar ôl cwblhau cymhwyster NVQ lefel pump gall gweithwyr astudio am gymwysterau pellach mewn maes o’u dewis sy’n berthnasol i anghenon y busnes. Mae’r rhaglen wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt hyd yn hyn, ac mae gennym 69 o weithwyr ar wahanol gamau o’u NVQ ar hyn o bryd ac un gweithiwr sydd wedi mynd ymlaen i hyfforddiant pellach."


"Daw 50% o weithwyr cangen Wrecsam o Ewrop ac maen nhw wedi derbyn eu haddysg y tu allan i’r DU. Mae derbyn hyfforddiant NVQ ychwanegol gyda ni yn eu helpu i ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn y DU. Rydym hefyd yn cyflogi nifer o bobl na chafodd y cyfle i dderbyn addysg bellach neu addysg uwch, am ba reswm bynnag. Iddyn nhw, mae’n gyfle i ennill y cymwysterau hynny. Ein nod yw hyrwyddo datblygiad staff yn y busnes, yn y gobaith y bydd y gweithwyr hyn yn cael cyfle i gamu ymlaen i swyddi goruchwylio a rheoli yn y cwmni."


Canfu Arolwg Omnibws Busnes gan Beaufort Research yn 2016 fod 97% o fusnesau Cymru a holwyd yn teimlo bod hyfforddiant a datblygiad yn bwysig i lwyddiant eu busnes. Pan ofynnwyd am ganlyniadau hyfforddiant, dywedodd 76% fod staff yn dangos mwy o ddiddordeb a brwdfrydedd am eu gwaith a dywedodd 70% fod staff yn fwy teyrngar. Er hyn, dim ond 61% oedd yn cynnig hyfforddiant penodol i swydd a dim ond 28% o’r cwmnïau a holwyd oedd yn cynnig prentisiaeth. (1)


Meddai Mikolaj: "Yn ogystal â gwella sgiliau yn y busnes, rydym wedi gweld fod staff yn hapusach ac yn fwy brwdfrydig yn eu gwaith. Canfu ein harolwg mewnol y llynedd fod 75% o’n gweithwyr yn ymgysylltu’n weithredol â’r busnes a bod trosiant staff yn isel iawn. Mae cynhyrchiant wedi codi i 33% hefyd, ac absenoldeb wedi gostwng o 4-6% i tua 2%."


"Mae ein rhaglen fewnol wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt, ac rydym yn gobeithio gwella ac ehangu’r opsiynau hyfforddi a gynigiwn. Rydym hefyd yn edrych yn allanol i gynnig prentisiaeth mewn peirianneg eleni, a fydd yn gyfle i ni hyfforddi rhywun o’r cychwyn yn y ffordd rydym yn gweithio i ddiwallu ein hanghenion penodol ni fel busnes."


Mae Kelly Venables-Jones yn weithiwr cynhyrchu gyda Mainetti, ac wrthi’n gweithio tuag at gymhwyster NVQ lefel 3. Meddai Kelly: "Fues i ddim yn y coleg a wnes i ddim Lefel A, felly ro’n i’n hapus iawn i gael cyfle i gofrestru ar raglen brentisiaeth Mainetti ac ennill cymwysterau. Mae’r cwrs yn ddiddorol a heriol, a dwi’n fwy gwybodus am fy ngwaith nawr. Mae wedi fy helpu i ddeall y prosesau a pham ein bod ni’n gwneud rhai pethau. Dwi’n mwynhau fy ngwaith yn fwy heb os ers bod ar y cwrs a dwi’n gallu gwneud fy ngwaith yn well hefyd."

 

(1) Arolwg Omnibws Busnes, Beaufort Research, Llywodraeth Cymru – Oes o Fuddsoddi, Tachwedd 2016