S4C

Stori S4C

Mae'r darlledwr Cymraeg, S4C, wedi buddsoddi mewn prentisiaethau fel rhan o'i ymrwymiad i hyfforddi a datblygu sgiliau yn lleol, i ddiogelu dyfodol y busnes.

Ers symud ei bencadlys i'r Egin yng Nghaerfyrddin, mae'r cwmni wedi cyflogi tri prentis arall.

Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C, y bydd prentisiaid yn caniatáu i'r cwmni gau'r bwlch sgiliau yn y diwydiant creadigol a'r cyfryngau, nid yn unig yn lleol, ond yng Nghymru gyfan.

Meddai: “Roedden ni eisiau dod o hyd i ffordd o ddod â doniau newydd, syniadau newydd a sgiliau perthnasol i'r busnes. Recriwtio prentisiaid oedd y dewis amlwg, gan ein bod yn awyddus i dargedu'r unigolion gwybodus yn yr ardal sydd am ddechrau eu gyrfa yn y diwydiant ac a fyddai’n gorfod symud i Gaerdydd neu hyd yn oed ymhellach fel arfer.

Elwa ar syniadau a sgiliau Newydd

Mae safle Caerfyrddin – Canolfan S4C Yr Egin yn gartref i adrannau corfforaethol, cyfathrebu, cyllid, adnoddau dynol, materion busnes a chyfreithiol y sianel.

Mae S4C yn cyflogi 110 o staff rhwng Caerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ar hyn o bryd.

Meddai: “Fe benderfynon ni recriwtio prentisiaid i dair rôl benodol; cyllid, y cyfryngau cymdeithasol a materion busnes gan ein bod yn teimlo mai'r arbenigeddau hyn fyddai'n elwa fwyaf ar gael syniadau ffres a sgiliau newydd.

“Hyd yn oed yn y cyfnod byr iawn ers i'n prentisiaid ddechrau gyda ni, maen nhw wedi cael effaith enfawr ar y busnes, gan helpu i greu gallu yn y tîm a chynnig atebion creadigol.

Ychwanegodd Owen: “Rydyn ni'n ffodus yma hefyd ein bod ni'n gallu cynnal ein prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Drwy ddatblygu unigolion drwy gyfrwng y Gymraeg, rydym ni'n buddsoddi yn nyfodol y cynnwys rydym ni'n ei gynhyrchu ar y sianel, S4C fel busnes a'r diwydiant yn gyffredinol.”

Canlynol yn ôl traed ei dad

Mae Joseph Hughes, 18 oed o Gastell-nedd, yn brentis Cyllid Lefel 2.

Meddai: “Pan adewais i'r ysgol, doeddwn i ddim yn gwybod beth oeddwn i eisiau ei wneud. Roedd gen i ddiddordeb yn y diwydiant ariannol, gan fod fy nhad yn Rheolydd Ariannol a dwi wastad wedi cael fy ysbrydoli gan ei waith. Pan welais i'r brentisiaeth yn S4C, es ati i fachu’r cyfle.”

“Ers dechrau fy mhrentisiaeth yn S4C, rydw i wedi ennill cymaint o brofiad. Rwy'n cynorthwyo'r tîm gydag anfonebu, gwiriadau credyd, prosesu taliadau a phrosesu treuliau busnes. Dwi'n mwynhau pob eiliad, a nawr dwi'n gwybod mai dyma'r llwybr gyrfa i mi.”